Mae'r wefan yma (The Meatrix) yn un hynod effeithiol ac yn cynnal ymgyrch i'n cael ni i brynnu cig 'moesol' fel petai (ethical).
Ymunwch yn yr ymgyrch.
Mae'r Carmarthen Journal, chware teg iddyn nhw, wedi bod yn rhedeg ymgyrch 'Prynnu Lleol' dros y mis diwethaf.
Dyma oedd un o brif bwyntiau ymgyrch Plaid Cymru, pan nad oedd yn ffasiynol, mewn ymgyrchoedd llywodraeth leol, ond mae'n ymddangos fel petai rhaglen deledu Jamie Oliver a phethau cyffelyb wedi cael effaith bositif ar yr ymgyrch.