Tudalen 1 o 1

Coral a'r Tsunami

PostioPostiwyd: Mer 17 Awst 2005 1:19 pm
gan Cardi Bach
Erthygl ddifyr iawn yn y Guardian heddiw, yn dweud fod y Tsunami wedi bod yn waeth ac wedi lladd mwy nag y ddylai fod wedi yn Sri Lanka am fod pobl, potshars, wedi bod yn potshan coral yn anghyfreithlon oddi ar yr arfordir.

Mae'n nodi fod un tref yn y de ddwyrain, Peraliya, gyda coral wedi cael ei botshan o'r mor yno, wedi dioddef ton 10 metr o uchder a aeth i fewn i'r tir am filltir gan ladd 1,700 o bobl. Ond mae'n cymharu hyn gyda Hikkaduwa, dwy filltir i'r de o Peraliya, ac sydd wedi cadw'r coral a ddioddefodd don o dair metr o uchder, aeth mewn i'r tir 50medr yn unig, ac na ddioddefodd yr un marwolaeth.

Mae'r rhai a welodd y tsunami yn dweud fod y don wedi lleihau dipyn wrth fwrw'r 'coral reefs', ac mae'r erthygl yn dweud efallai fod hyn y esbonio pam y bu i'r Maldives beidio a chael ei efeithio mor wael am fod coral yn niferus yno.