Helo! Dwi ma i hyrwyddo'r defnydd o linell gymorth Ailgylchu dros Gymru. Llinell newydd ei sefydlu ydyw gyda'r nod o gynnig gwybodaeth ddwyieithog ynglyn ag unrhyw fater sy'n ymwneud ag ailgylchu. Ar hyn o bryd, dim ond ar gefn bysys y caiff y rhif hwn ei hysbysebu, felly cymerwch fantais ohoni cyn i'r hysbysebion teledu a radio gael eu darlledu ym Mis Tachwedd.
Felly os ydych chi'n chwilio am lefydd i ailgylchu gwydr yng Ngwynedd, Metalau ym Mynwy neu blastig yng Ngheredigion (pob lwc) rhowch dincl i 0845 330 5540