Cenedl GM?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cenedl GM?

Postiogan nicdafis » Sul 06 Gor 2003 12:38 pm

Wyt ti'n gwybod bod llai na pythefnos 'da ti i <a href="http://www.gmnation.org.uk/dz_08/form01.asp">roi dy farn ar GM</a>. Mae'r wefan yn uniaith Saesneg, ond cei di gwplhau'r atebion yn y Gymraeg. Mae proses ymgynhori'r cyhoedd yn dod i'w ben ar 18 Gorffennaf.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ceribethlem » Sul 06 Gor 2003 4:05 pm

Fel rhywun sydd wedi astudio geneteg a Biocemeg yn y Brifysgol, mae hwn yn bwnc sy'n fy niddoru i'n fawr iawn.
Dyma fy atebion i'r ddau gwestiwn ysgrifennedig:
Dwi'n credu fod bwydydd GM wedi cael eu defnyddio'n helaeth (mewn modd primitif) ers miloedd o flynyddoedd trwy'r system bridio dewisiadol. Enghraifft o hyn yw'r gwenith sydd wedi cael ei ddefnyddio i wneud bara. Mae geneteg y gwenith yma wedi ei newid o fod yn blanhigyn diploid i blanhigyn hexaploid ers amser yr Hen Eifftiaid.
Fodd bynnag mae'r hyn sy'n cael ei gynnig gan GM modern yn wahanol am ei fod yn gosod genynnau estron i mewn i'r planhigyn, does dim sicrwydd beth fydd effaith gosod y genynnau estron yma i mewn i'r planhigyn, nac ychwaith sut byddai'r genynnau hyn yn effeithio ar fywyd gwyllt yr amgylchedd lleol.
Mae'n hanfodol i ni wybod yn sicr beth fydd yr effaith cyn ein bod yn gosod y rhain i mewn i'r amgylchedd.


Fe all bwydydd GM helpu y gwledydd sy'n datblygu, sy'n cael trafferthion gyda newyn. Y broblem yma yw fydd y cnydau yma yn cael eu rheoli gan gwmni mawr cyfoethog Prydain, yr UDA ayyb. Ni ddylid cynnig y cynnyrch yma i wledydd tlawd er mwyn cael arian allan ohonynt. Mae angen defnyddio'r dechnoleg yma i'w helpu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan huwwaters » Sul 06 Gor 2003 6:11 pm

Y problem mwyaf dwi'n meddwl ydi, fod cnydau GM yn gwanhau'r system imiwnedd. Dwi di clwed hwn gan sawl ffynhonell. Y peth perygl am hwn yw, fod ni angen ein system imiwnedd i fod ar ei chryfaf trwy'r amser a gyda clefydau newydd yn datblygu fel SARS a'r superbug sydd i'w gael mewn ysbytai, mae'n bwysig.

Un peth a all fod yn broblem, yw chwyn sydd ddim yn cael eu effeithio gan lladwr-chwyn traddodiadol. Problem fawr i rai, a wneith gostio'n ddrud.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan ceribethlem » Sul 06 Gor 2003 7:52 pm

Y problem mwyaf dwi'n meddwl ydi, fod cnydau GM yn gwanhau'r system imiwnedd. Dwi di clwed hwn gan sawl ffynhonell.

Gwir, mae angen rhywfaint o afiechydon, a bwyd afiach er mwyn datblygu a stimiwleidio'r system imiwnedd.

ni angen ein system imiwnedd i fod ar ei chryfaf trwy'r amser a gyda clefydau newydd yn datblygu fel SARS a'r superbug sydd i'w gael mewn ysbytai, mae'n bwysig.

Y broblem fan hyn yw'r gorddefnydd o antibiotics yn y gorffennol, mae nigfer mawr o glefydon bellach wedi datblygu imiwnedd i'r antibiotics traddodiadol.

Un peth a all fod yn broblem, yw chwyn sydd ddim yn cael eu effeithio gan lladwr-chwyn traddodiadol. Problem fawr i rai, a wneith gostio'n ddrud.

Byddai datblygu cnydau GM yn helpu'r broblem hon, pe bai modd i ddatblygu imiwnedd i chwyn-laddwyr i mewn i'r cnydau gellir lladd y chwyn yn hawdd. Y broblem bydd, a fyddai'r chwyn yn cael eu contamiwneiddio gan y cnydau ac felly yn datblygu imiwnedd i'r chwynladdwr newydd. OS na fe fyddent bron yn sicr yn datblygu imiwnedd o fewn rhai blynyddoedd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Huw T » Sul 06 Gor 2003 11:25 pm

Does gen i ddim y wybodaeth wyddonol i ddadlau'r pwncar y lefel hynny. Beth di yn gwybod yw os y bydd poblogaeth y byd yn parhau i gynyddu ar y gyfradd bresennol, yna cyn hir ni fydd dulliau confensiynol o gynhyrchu bwyd yn ddigonol. Felly, dylid oleiaf arbrofi gyda GM i weld beth sy'n bosib
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan ceribethlem » Llun 07 Gor 2003 2:51 pm

dylid oleiaf arbrofi gyda GM i weld beth sy'n bosib


Digon teg, ond, mae yna sgil-effeithiau gwyddonol a gwleidyddol i'r cwestiwn.
Mae'n rhaid sicrhau fod yr arbrofi gwyddonol yn cael ei wneud mewn man lle ni all 'contamination' o'r bywyd gwyllt ddigwydd cyn i ni weld beth yw gwir effaith newid y cnydau ar lefel genetig.
Y broblem gwleidyddol (ac economegol am hynny) yw y bydd 'patent' ar y genynnau yn y cnydau yma, sy'n golygu fod y 'corporations' mawr yn berchen ar y cnydau hynny. Yn sgil hyn, maent wedi newid y planhigion felly mae un cnwd yn unig maent yn rhoi cyn iddynt farw, yna rhaid prynu mwy. Mae'r broblem yma'n effeithio'n enbyd ar wledydd y Trydydd Byd, mae'r cnydau sy'n cael eu gwerthu (o'r UDAyn bennaf) yn gallu tyfu yn y tir sych, ac yn rhoi cnydau am y flwyddyn honno, cyn marw, yna mae'n rhaid i'r gwledydd yma brynu mwy o gnydau.

Dylid defnyddio'r dechnoleg yma i wella safon byw pobl ar draws y byd yn hytrach na chreu elw i nifer bach o gwmniau yn yr UDA.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Huw T » Llun 07 Gor 2003 4:23 pm

Mae'n rhaid sicrhau fod yr arbrofi gwyddonol yn cael ei wneud mewn man lle ni all 'contamination' o'r bywyd gwyllt ddigwydd


Wrth gwrs, ro nin cymryd hyn yn ganiataol.

Dylid defnyddio'r dechnoleg yma i wella safon byw pobl ar draws y byd yn hytrach na chreu elw i nifer bach o gwmniau yn yr UDA.


Sain credu fydd unrhyw un ar y maes yn anghytuno a ti fan hyn, oni bai am RET falle :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Cardi Bach » Iau 10 Gor 2003 8:58 am

Rhaid cyfadde mod i ddim yn gwbod fawr ddim am GM - jest yn un peth od rhwbeth ym mer yn esgyrn i yn gweud fod e'n ong, er mod i'n gallu gweld rhesymeg y buddiannau yn y tymor hir petai'n cael ei drin yn iawn.

Ta waeth, dyma beth mae Joan Ruddock AS wedi dweud am y peth yn eu hymgyrch:
(mae'r wefan bellach wedi cael ei dynnu lawr yn anffodus, felly mae'n rhaid rhoi'r dyfyniad, helaeth, yn Saesneg)

Welcome to GMNo


Statement
"I recognise the contribution of genetic modification in the development of pharmaceuticals and the enormous value of modern drugs to human health.

I support continuing research but believe that GM development and production in the living environment is radically different from the pharmaceutical factory.

My concerns about growing genetically modified crops in the UK are:

a. inadequate research into possible human health effects

b. proven environmental damage arising from gene transfer to non-GM crops and "stacking" of herbicide resistant genes

c. no guarantee of consumer choice between GM and non GM

d. no liability on biotech companies for any damage done by GM food and crops

e. no clear evidence of long term economic benefits.

Furthermore I am not convinced that GM crops are the answer to world hunger. In most developing countries inadequate food supplies are the result of distribution and storage problems. Environmental risks may be even more profound in the rich biodiversity of these countries and corporate control over the food chain and seeds could jeopardise local economies.
And so, based on the facts available to me at present I cannot support the commercial growing of GM crops in the UK."


--------------------------------------------------------------------------------


Purpose
I’ve set up this site to gather signatures from opinion formers who support the statement.

Later this year the government will decide whether GM crops should be grown commercially in the UK.

Mobilising public support is crucial to that debate and this site is a means to that end.




Mae'r ddadl am lwgu yn y byd yn un 'compelling' - hynny yw, ie, gall GM helpu i ddatblygu bwyd i'r anghenus, ond onid y gwir yw fod yna hen ddigon o fwyd ar gael yn y byd, jest mater o 'distribution' yw e - petai'r bwyd yn cael ei rannu'n deg yna byddai dim trafferth llwgu (tebyg iawn i Iwerddon a'r potato famine yn y ganrif ddiwethaf).

Hefyd dyma drafodaeth fi yn Senedd San Steffan yn ddiweddar ar y pwnc:
http://www.publications.parliament.uk/pa/cm200203/cmhansrd/cm030708/halltext/30708h03.htm#30708h03_spnew0
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai