gan huwwaters » Llun 17 Hyd 2005 11:42 am
Dwi'n meddwl nes i glywed rywbeth am yr erthygl ar BBC World Service neu rywbeth bore ma am tua 03:30. Yn son fod y dadmer yma o ganlyniad patrymau byw y Gorllewin yn effeithio ar hawliau dynol yn Inuits, gan nad ydynt yn gallu byw yn eu amgylchfyd, a bod yr anifeiliaid ma nhw dibynnu ar i wneud dillad ac am fwyd yn diflannu. Hefyd, fod yn y rhannau yma mae'r cyfradd CO2 per capita uchaf oherwydd eu bod yn dibynnol iawn ar olew am gynhesrwydd - e.g. gadael injina car ymlaen tra mewn siop, i atal yr injian rhag rhewi.
Ma na hefyd erthygl yn yr Independent heddiw, wel mwy na erthygl, cylchgrawn bach am y Byd sy'n Diflannu. Rhan 1: Vanishing Britain.
Huw