Tudalen 1 o 14

Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Llun 17 Hyd 2005 3:27 pm
gan Geraint
Pa fywyd gwyllt da chi wedi sbotio?

Ddoe fues i Drwyn Eilian ar Ynys M

PostioPostiwyd: Llun 17 Hyd 2005 11:15 pm
gan krustysnaks
Nath na ddwy alarch hedfan i mewn i bynt ar yr afon bore ma.

PostioPostiwyd: Llun 17 Hyd 2005 11:28 pm
gan Mali
Llun gwych Geraint

:D

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:19 am
gan Geraint
Mali a ddywedodd:Llun gwych Geraint

:D


Diolch Mali, ond dylse ni wedi dweud mae nid fi tynnodd y llun :wps: Ond dyna be weles i, anodd credu fod aderyn mor fawr a thrawiadol yn byw ar ynysoedd prydain, mae'n edrych fel aderyn o'r galapagos neu rhywle!

Krusty, mewn i bont ti'n feddwl? Be ddigwyddodd i nhw?


Dewch mlaen pobl, sdwffiwch y selebriti sbotio, pa rhyfeddodau natur da chi wedi weld yn ddiweddar? Unrhyw anifaeiliad ciwt? Neu bwystfilod dychrynllyd?

Weles i lwynog marw ar y ffordd ddoe. Hefyd, dros y mis dwetha, dwi methu credu faint i wiwerod marw dwi di weld ar y ffyrdd, ma na ganoedd ar ganoedd o nhw yn pydru ar ein ffyrdd.

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:25 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Geraint a ddywedodd:Krusty, mewn i bont ti'n feddwl? Be ddigwyddodd i nhw?


Pynt, y gair ma' ponsys Caergrawnt a Rhydychen yn ei ddefnyddio am yr hyn mae pawb arall yn ei alw'n ffycin cwch. :rolio:

Heb weld unrhyw beth heblaw gwiwerod di-ddiwedd. Fi'n trio mynd drostyn nhw ar fy meic, ond mae'r ffycyrs bach yn rhy glou. :x

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:28 am
gan Wierdo
Pam wtin trio eu lladd nw? :ofn: :ofn: Dwi rioed di gweld gymaint o wiwerod a dwi di gweld ers fi gyrraedd Aber. Wthos dwetha onin cerdded fyny'r lon (dim ceir ar y pryd, man amlwg ne swni'n fflat wan) ac odd na dderyn (peidiwch a gofyn sut aderyn, dwim yn cofi hydnoed swnin gwbo) yn cerdded lawr ochor arall y lon!!! Oddon brofiad od iawn iawn...

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:31 am
gan sian
Geraint a ddywedodd:Krusty, mewn i bont ti'n feddwl? Be ddigwyddodd i nhw?


Dw i'n meddwl bod Krusty yng Nghaergrawnt - lle mae 'na gychod o'r enw "pyntiau" ar yr afon, medden nhw. :lol:

Mae 'na dipyn o foch daear marw i'w gweld ar yr hewlydd rownd ffordd hyn hefyd - weles i erioed un byw.

Ro'n i'n edrych mas trwy'r ffenest ddoe ac roedd p

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:41 am
gan Iesu Nicky Grist
Geraint a ddywedodd:Hefyd, dros y mis dwetha, dwi methu credu faint i wiwerod marw dwi di weld ar y ffyrdd, ma na ganoedd ar ganoedd o nhw yn pydru ar ein ffyrdd.


Diolch byth bo rhywun arall wedi sylwi - o'n i wir yn credu mai mond fi odd yn eu gweld nhw. :ofn:

Fi 'di gweld dwy wiwer yn cael eu lladd 'da ceir yn yr wythnos dd'wethaf. :ofn:

Yn ardal Rhydaman, ma'n edrych fel te'r Cyngor wedi lawnsio cynlluniau newydd i'r ffyrdd gan fynnu bo wiwer pydredig yn ran o'r motif.

Nyts

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:53 am
gan khmer hun
Ffaelu neud y llunie biz. Bryd fi ddysgu, mi wn...

Dau filidowcar doniol iawn wrth gei Caernarfon - un yn golchi'i adenydd drwy'u chwipio'n gyflym ar y dwr bob yn hyn a hyn gan 'neud swn mawr dros y lle a'r llall yn neud y stance Batman comig 'na sy' 'da nhw ar ben bwi. Fi'n dwli ar y bili.

Hefyd dau alarch balch yn hwylio. Achos o'dd hi mor braf ddoe, o'dd hi fel tae'r adar i gyd yn cael rhyw hwyl fawr - fel bo hi'n wylie arnyn nhw.

Cr

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2005 10:55 am
gan Dwlwen
Geraint a ddywedodd:Krusty, mewn i bont ti'n feddwl?

pleb :lol: :winc:

Odd robin goch yn y gelynnen adre dros y penwythnos - ddim yn olygfa anhygoel o bell ffordd, ond odd y goeden yn llawn aeron yn barod, a ma 'nny braidd yn od nagyw? Ma'r yukka yn yr ardd wedi blodeuo hefyd.

Yn y cyfamser yng Nghaerdydd: neithiwr 'nath corryn lanio ar fy nghefn yn y bathrwm, a wedyn ges i freuddwyd am froga.