Nawr dwin cofio hwn, ond 2 nosweth nol pan es i nol bach o orange jiws or gegin am 1 or gloch y bore, weles i gadno ar y lawnt cefn drwy'r ffenest. Wompyn o gadno whareteg, y mwya dwi di gweld. Wedd e'n edrych am biti am gwd 5 munud fach, a gath e/hi ddim sioc o gwbwl pan troies i gole'r cefn mlan i gal well look.
Un stori arall, cwpwl o misoedd nol dwin cofio gweld barcud coch yn lando ar ochor draw y parc. A sylwes i bod ar y llawr yn neud rhywbeth am oleia 10 munud, so we nin meddwl bod e wedi dal rhywbeth. Felly tynnes i binociwlars mas or dror yn y gegin a es i lan llofft o gal gwell golwg. A weles i fod y barcud yn byta oen bach wedi marw, eitha diddorol ond hefyd drueni dros y poor bugger o oen.