Sboted - Bywyd Gwyllt

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan khmer hun » Maw 24 Ion 2006 10:06 am

Gwyddau Canada a lot o hwyaid ar gors Caron dros y Sul. Hefyd, pum alarch yn sgubo'r gorwel
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan khmer hun » Maw 24 Ion 2006 10:18 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Weles i gnocell y coed ar fy ffordd i'r gwaith heddi', ddim yn bell o Erddi Sophia. Roedd ganddi gorff melyn a phen coch, hynod drawiadol. Beth yw'r union enw am y math hwn?


Y gnocell werdd, swn i'n tybio. Mae e'n hardd.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Geraint » Iau 26 Ion 2006 2:25 pm

O Pier Bangor, Dydd Sul dwetha, gwelais ddwy Gwyach Fawr Gopog (Great Crested Grebe) yn pysgota yn y Fenai.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dili Minllyn » Iau 26 Ion 2006 7:12 pm

Geraint a ddywedodd:O Pier Bangor, Dydd Sul dwetha, gwelais ddwy Gwyach Fawr Gopog (Great Crested Grebe) yn pysgota yn y Fenai.

Gwych o adar, ac mae'r cywion yn hyfryd o streipiog hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan bartiddu » Gwe 24 Maw 2006 5:44 pm

Ystlum, yn hedfan dros y briffordd yr ochor Llanelli o Cross Hands pnawn 'ma, wir! :o
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan y mab afradlon » Sad 25 Maw 2006 9:52 pm

Ma'r brogaod (y de, sef frogs) wedi bod wrthi'n gwneud eu swn motobeics yng ngardd Mam, ond mae'r broga sy'n cysgu yn y domen 'da fi (nid yn 'cysgu gyda fi', ond y domen sydd 'da fi!! Jyst rhag ofn - mae gymaint o bobl yn darllen popth ar y we'r dyddiau 'ma, mae'n rhaid bod yn ofalus...) dal ynghwsg. Wy'n dechrau ame ei fod e'n farw, ond mae'i gorff yn solet o hyd...

Mae'r gwybed 'di dechrau ymgynull uwch y dwr yn yr ardd gefn - deiff yr ystlymod ar eu holau'n weddol fuan nawr.

A'r bore 'ma roedd ryw 6 o Frain yn casglu glaswellt marw (felly gwellt??) o'r lawnt yn cefn.
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan bartiddu » Sul 26 Maw 2006 1:02 pm

Odi mae'n ddifyr gwylio'r brain yn paratoi'u nythau ar y brigau uchel ar hyn o bryd, ac mae'n dymor caru'r adar, welais i ddau sguthan wrthi fel cwiningod ar ben crib t
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan bartiddu » Gwe 21 Ebr 2006 6:37 pm

Wenci yn croesi o'm mlaen i ar yr hewl tua awr nol, erioed wedi gweld un o'r blaen, oedd e'n rhedeg fel y diawl rhag i mi fynd drosto, oedd e'n debyg iawn i mwstach Tecwyn Ifan!

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Mali » Sul 30 Ebr 2006 1:47 am

Welais i wiwer ar y cwrs golff ddoe , a pnawn 'ma jyst i mi fynd dros llyffant bach gwyrdd tra'n torri'r lawnt . :ofn: Ond wedi ei achub mewn pryd , a rwan mae o'n hapus ei fyd ar ochr y twb dwr . 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Sul 14 Mai 2006 6:46 pm

Wrth fynd am dro ym Mharc Sant Si
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai

cron