Tudalen 11 o 14

PostioPostiwyd: Sul 06 Mai 2007 7:05 pm
gan Dili Minllyn
bartiddu a ddywedodd:Shigldigwt melyn penddu uwchben marchnad Aberteifi heddi!
Fi'n siwr na beth oedd e, canw'r a hedfanwr penigamp!

Diddorol iawn. Ymwelydd annisgwyl ond ddim yn amhosibl.

PostioPostiwyd: Sul 06 Mai 2007 8:37 pm
gan bartiddu
O ddwyrain Ewrop mae'n debyg?
Edrychais drwy'r sbienddrych arno hefyd, cynffon hir, bol melyn ac yn sicir roedd coron ei ben yn ddu, does dim aderyn cynhenid hefo'r rhinwedau hyn oes e?

PostioPostiwyd: Llun 07 Mai 2007 8:24 am
gan Dili Minllyn
bartiddu a ddywedodd:O ddwyrain Ewrop mae'n debyg?

Dyna mae llyfr Iolo Williams yn ei ddweud.

bartiddu a ddywedodd:Edrychais drwy'r sbienddrych arno hefyd, cynffon hir, bol melyn ac yn sicir roedd coron ei ben yn ddu, does dim aderyn cynhenid hefo'r rhinwedau hyn oes e?

Nag oes, dwi'n meddwl, er ei bod yn hawdd drysu rhwng lliwiau a chysgodion ac ati wrth edrych ar adar o bell.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 4:38 pm
gan Mali
Naw carw yn bwyta'n dda mewn gardd cyfagos . :)

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 7:12 pm
gan Blewyn
Babi camel newydd sbon yn cael diod efo'i fam o bowlen ddwr tu allan i'r swyddfa :-)

PostioPostiwyd: Iau 10 Mai 2007 2:05 am
gan Mali
Blewyn a ddywedodd:Babi camel newydd sbon yn cael diod efo'i fam o bowlen ddwr tu allan i'r swyddfa :-)


Ah..... :D
Racŵn allan yng ngolau dydd a nifer o frain swnllyd yn ei ddilyn o goeden i goeden. 8)

PostioPostiwyd: Mer 16 Mai 2007 7:15 pm
gan briallen
Oni jest yn dreifio un bore o wanwyn a sylwais i ar goeden oedd yn drwm o ddail brown...od iawn oeddwn ni'n meddwl. Mewn chwinciad roedd y goeden yn noeth a'r drudwy yn dawnsio ac yn gwneud patrymau hudol yn yr awyr las. Oni ddim cweit yn siwr beth oni'n edrych arno am eiliad - odd e'n swrreal.

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 9:50 pm
gan Blewyn
<a href="http://www.flickr.com/photos/blewyn/509916632/" title="Pry Cop"><img></a>

Hyll !

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 10:23 pm
gan bartiddu
Gwenwynig? :ofn:

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 10:32 pm
gan Tegwared ap Seion
:ofn: Ych a fi! Ai "feelers" sydd ar ei ben blaen??