Tudalen 12 o 14

PostioPostiwyd: Mer 23 Mai 2007 3:59 am
gan Blewyn
Ia dwi'n meddwl - a mae'r diawled yn gallu rhedeg yn gyflym hefyd - wele

http://www.youtube.com/watch?v=oKPJB-R0Cl4

T'ydy nhw ddim yn wenwynig. Mae nhw'n bwyta anifaeliaid bychan fel llygod a pryfaid, ag yn tynnu blew oddi ar gamelod tra mae'r camelod yn cysgu, er mwyn gwneud nyth. T'ydy nhw ddim yn bwyta camelod drwy injectio anaesthetic fel y son.......gobeithio....

PostioPostiwyd: Mer 23 Mai 2007 12:43 pm
gan Iesu Nicky Grist
Ystlumod mas y bac

PostioPostiwyd: Mer 06 Meh 2007 10:25 am
gan Dili Minllyn
Gwylan y penwaig yn cwrsio brân am fwyd, a chriw o frain yn cwrsio boncath. Hen fyd cas, yndê?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Meh 2007 9:57 am
gan Fatbob
Neidr fraith, tua tair trodfedd o hyd yn torheulo yn y gwair hir wrth ein tŷ ni.

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 9:11 am
gan Dili Minllyn
Gwenoliaid yn hedfan yn isel iawn o gwmpas ein traed wrth bryfeta ar gloddiau amddiffynnol Castell Rhaglan. Gwefreiddiol. 8)

PostioPostiwyd: Gwe 22 Meh 2007 10:41 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Sgrech y coed ar waelod Richmond Road.

PostioPostiwyd: Iau 28 Meh 2007 9:38 pm
gan bartiddu
http://www.youtube.com/watch?v=LU8DDYz68kM
O 2 mun mewn i'r 7fed munud
Byffa-llo bach yn cael amser caled, Natur wyllt ar ei rhyfedda!

PostioPostiwyd: Gwe 29 Meh 2007 11:01 pm
gan H Huws
Penwythnos blaenorol - morloi yn y mor rhwng Moelfre a Thrwyn Eilian.

& Yn ogystal a'r adar a restrwyd gynt o Ynys Lawd - paal a'r fran goesgoch. I weld y pal a'u tyllau nythu - angen fod ar y grisiau/wrth y goleudy yn edrych yn ol tua'r dwyrain - hanner ffordd i fyny'r graig o dan twr elim.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 11:53 am
gan bartiddu
Gwalch 'wyfyn y Poplar yn cysgodi o'r curlaw yn fframin drws y cefn neithiwr

Delwedd

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Gwe 11 Ebr 2008 6:37 pm
gan Dili Minllyn