Tudalen 13 o 14

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Sad 07 Meh 2008 7:08 pm
gan Dili Minllyn
Gwenoliaid y bondo yn nythu o dan ein bondo (wrth reswm). Pleser pur. 8) Dwi wedi bod yn pigo mas i'w gweld nhw'n gyson ers sylwi arnyn nhw bore 'ma - adar ciwt tu hwnt. :D

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Sul 08 Meh 2008 2:21 am
gan Mali
he he ....pedwar boi dwi'n weld yn dy linc di !

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Sad 14 Meh 2008 5:01 pm
gan Dili Minllyn
Mali a ddywedodd:he he ....pedwar boi dwi'n weld yn dy linc di !

Ie wir, ond pa bedwar boi?

Gwell fyth, buom ni heddiw yng Nghastell Gwydris, ychydig dros y ffin yn sir Henffordd, ac roedd llond y lle o wenoliaid y bondo yn nythu ymhob twll a chornel. Roedd llawer o'r nythoedd ar eu hanner, a hyfryd iawn oedd gweld yr adar bach annwyl yn gweithio ychydig droedfeddi uwch ein pennau yn hedfan yn ôl a blaen efo llond eu cegau o fwd o’r afon. Diddorol gweld hefyd eu bod yn bur fodlon byw'n gymunedol, a rhai o'r nythoedd yn ddigon agos at ei gilydd.

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Sul 15 Meh 2008 10:50 pm
gan Mali
Dili Minllyn a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:he he ....pedwar boi dwi'n weld yn dy linc di !

Ie wir, ond pa bedwar boi?


Ha ! Clyfar ... 8) Newydd weld y teitl yn y bar tasgiau rwan . :lol:

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Llun 15 Meh 2009 2:34 pm
gan Dili Minllyn
Cwtieir yn nythu ar ben rafft o sbwriel ar hen Ddoc Bute y Gorllewin yng Nghaerydd (Atlantic Wharf bellach). Braf gweld dyfeisgarwch natur (nythu ar ben y stwff) 8) yn wyneb twpdra dyn (taflu'r stwff i'r doc yn yn lle cyntaf). :rolio:

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Gwe 10 Gor 2009 9:56 pm
gan Mali
Carw corniog bore yng ngardd ein heglwys , ac arth ddu hardd pnawn 'ma wrth yml maes awyr Comox. 8) 8)

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Gwe 31 Gor 2009 1:57 pm
gan Dili Minllyn
Dwy baroten dorchog uwchben cae Clwb Criced Taplow, swydd Buckingham. Wedi eu gweld nhw sawl gwaith o'r blaen - maen nhw'n eithaf cyffredin yng ngorllewin Llundain a'r cylch - ond mae'n dal yn brofiad cyffrous eu gweld. 8)

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Sad 29 Awst 2009 8:20 am
gan Dili Minllyn
7.30am heddiw: titw tomos las a dau aderyn y to ar fwrdd yr adar, a phum turtur dorchog yn aros eu tro ar y gwifrau telegraff. Dechrau da i'r diwrnod.

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 10:30 am
gan Dili Minllyn
Wedi gweld haid o sociaid eira, neu beth bynnag yw lluosog socan eira. Trueniaid ohonyn nhw - wedi dod o Rwsia i ddianc rhag yr oerfel, i ganol gaeaf gwaethaf Prydain ers yr 1980au. :ing:

Re: Sboted - Bywyd Gwyllt

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2010 5:51 pm
gan Dili Minllyn
Crëyr Bach yn codi o Nant Lleucu, Parc y Rhath, yng nghanol dinas Caerdydd. Wedi'i yrru o'r arfofrdir, siwr o fod, gan yr oerfel