Tudalen 7 o 14

PostioPostiwyd: Maw 18 Gor 2006 10:55 pm
gan Reufeistr
Dolffin hiwj (dwi meddwl, edrych mwy 'tha Orca ond sa hynny'n amhosib) yn traeth Dinas Dinlle heddiw. Oedd o'n ddu ac yn fawr. Y dorsal ffin a'r siap yn neud i fi feddwl mai dolffin neu porpoise oedd o ond y maint yn neud fi meddwl morfil!!!

PostioPostiwyd: Mer 19 Gor 2006 11:21 am
gan S.W.
Gwylan yn edrych fel bod o'm ymosod ar aderyn ysglyfaethus.

Oeddwn i allan yn tacluso'r ardd echddoe, ac oedd hin ddiawl o braf a'r awyr yn hollol glir a clywed sgrech gwylan a digwydd edrych i fyny. Dipyn yn uwch na to'r ty oedd na be oedd yn edryh yn debyg iawn i fi fel aderyn ysglyfaethus o rhyw fath, eitha mawr gyda adenydd coch a brown yn hedfan a gwylan yn plymio tuag at yr aderyn cyn hedfan yn nol i fyny a gwneud yr un peth eto ac eto ac eto.

Dwin cymryd wrach ei fod ym amddiffyn ei nyth neu rhywbeth.

PostioPostiwyd: Mer 19 Gor 2006 11:22 am
gan Geraint
Cael hwyl yn gwylio gwylanod bach yn trio hedfan am y tro cynta, ac yn diwedd lan ar y stryd yn edrych ar goll.

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 5:03 pm
gan Mali
Efeilliaid ar ein lawnt ffrynt bore 'ma. Del ...
:D
Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 5:31 pm
gan bartiddu
10 pioden masybac
Lle ma' hwnna'n gadael fi yn ol y rhigwm enwog? :ofn:

PostioPostiwyd: Iau 27 Gor 2006 7:48 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
bartiddu a ddywedodd:10 pioden masybac
Lle ma' hwnna'n gadael fi yn ol y rhigwm enwog? :ofn:


Hala £10,000 i nghyfri i yn Nigeria, ac fe weda' i 'tho ti.

PostioPostiwyd: Gwe 28 Gor 2006 8:39 am
gan Rhodri Nwdls
Welish inna 3 dolffin o draeth y De yn Aber wythnos dwetha. Tro cynta i fi weld dolffiniaid yn y wlad hon. Ystlum yn hedfan rownd r'ardd noson o'r blaen 'fyd, a Bronfraith fach yn malu malwod yn r'ardd ffrynt.

PostioPostiwyd: Sad 29 Gor 2006 1:44 am
gan Hen Rech Flin
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Welish inna 3 dolffin o draeth y De yn Aber wythnos dwetha. Tro cynta i fi weld dolffiniaid yn y wlad hon.


Cyd-ddigwyddiad neu o ganlyniad i'r tywydd braf, dwn im, ond yn rhyfedd iawn mi welais i ysgol o hanner dwsin o lamhidyddion (porpoise pethau eithaf tebyg i'r dolphin) yn nofio ger pier Llandudno ddoe. Yn y 70au a'r 80au roedd llamhidyddion i'w gweld yn aml ar hyd arfordir y gogledd, ond heddiw oedd y tro cyntaf imi eu gweld ers bron i ugain mlynedd.

PostioPostiwyd: Sad 29 Gor 2006 7:27 am
gan Blewyn
Mexican standoff rhwng dau Gecko neithiwr, ar wal y garej. Buont ati am ryw ddeg munud cyn i un chwifio ei gynffon yn nerfus a'i throi hi am gornel dywyll saff.

PostioPostiwyd: Sad 29 Gor 2006 2:52 pm
gan Mali
Blewyn a ddywedodd:Mexican standoff rhwng dau Gecko neithiwr, ar wal y garej. Buont ati am ryw ddeg munud cyn i un chwifio ei gynffon yn nerfus a'i throi hi am gornel dywyll saff.


:lol:
Disgrifiad mor ddifyr fel fu'n rhaid i mi gwglo i ffeindio allan beth oedd y Gecko.
Yn ôl i be welish i neithiwr .....racŵn mentrus iawn yn croesi'r ffordd o flaen ein car.