Tudalen 9 o 14

PostioPostiwyd: Sad 21 Hyd 2006 3:00 pm
gan Dili Minllyn
Mi welais i ryw ddwsin o foncathod yn ddiweddar, yn sefyll yn lled agos ar ei gilydd mewn cae, wrth i mi deithio gyda'r car trwy sir Gaerloyw. Golygfa ryfedd ar y naw. Hyd y gwn i, dyw adar ysglyfaethus ddim yn heidio fel hyn. Oes rhywun arall wedi gweld peth tebyg?

PostioPostiwyd: Maw 24 Hyd 2006 8:59 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Eogiaid yn llamu ger y Blackweir (na, nid y dafarn!) fin nos nos Sadwrn.

PostioPostiwyd: Sad 28 Hyd 2006 8:12 pm
gan Dili Minllyn
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Eogiaid yn llamu ger y Blackweir (na, nid y dafarn!) fin nos nos Sadwrn.

Diddorol. Mae'r dŵr yn ffiaidd o frwnt yn fan 'na. O'n i'n meddwl bod eogiaid yn mynd am afonydd glân.

PostioPostiwyd: Sul 29 Hyd 2006 8:35 pm
gan Mali
Elyrch yr Utgorn, y Trumpeter Swans yn eu holau am y gaeaf. Wedi gweld y rhai cyntaf heddiw! 8)

Delwedd

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 11:40 am
gan Dili Minllyn
Mali a ddywedodd:Elyrch yr Utgorn, y Trumpeter Swans yn eu holau am y gaeaf. Wedi gweld y rhai cyntaf heddiw! 8)

Difyr. Ble maen nhw'n treulio'r haf, ymhellach i'r gogledd?

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2006 5:15 pm
gan Mali
Dili Minllyn a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Elyrch yr Utgorn, y Trumpeter Swans yn eu holau am y gaeaf. Wedi gweld y rhai cyntaf heddiw! 8)

Difyr. Ble maen nhw'n treulio'r haf, ymhellach i'r gogledd?


Ia, yn Alaska. Dwi wrth fy modd 'i gweld nhw'n cyrraedd yma , a dod a'u 'plant ' efo nhw . Mae'r rhai ifanc yn llwyd, felly yn ddigon hawdd i'w hadnabod.
Mae 'na webcam newydd yn dangos Dyffryn Comox. Os edrychi di ar y web cam, mae'r caeau lle weli'r y rhan fwyaf ohonynt i'w gweld pan mae'n 'panio' i'r dde. Piti nag oes 'na zoom arno .....fedrai weld rhai yno rwan!

Wedi tynu hwn ddoe:
Delwedd

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 6:02 am
gan Blewyn
Un o'r rhain yng ngardd ein ffrindiau yn Muscat echddoe....

http://en.wikipedia.org/wiki/Walterinnesia

:ofn: :ofn:

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 3:59 pm
gan Iesu Nicky Grist
3 cadno ar hewlydd yn Wiltshire. Ddim 'run pryd, er weles i ddou yn Shrewton. Falle taw un weles i dair gwaith. Saimo.

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 4:10 pm
gan Ray Diota
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:3 cadno ar hewlydd yn Wiltshire. Ddim 'run pryd, er weles i ddou yn Shrewton. Falle taw un weles i dair gwaith. Saimo.


Le ffac wyt ti di bod, de ING?

Ot ti'n llunden p'ddwrnod 'fyd...

woah bess. :o

PostioPostiwyd: Llun 13 Tach 2006 5:46 pm
gan Mali
Blewyn a ddywedodd:Un o'r rhain yng ngardd ein ffrindiau yn Muscat echddoe....

http://en.wikipedia.org/wiki/Walterinnesia

:ofn: :ofn:


:ofn: Dwn im be faswn i'n wneud tasa fi'n gweld neidr fel hyn. Dim ond y grass snake sydd gennym ar Ynys Vancouver ...rhai digon bychan a diniwed.
Gobeithio fod o ddigon pell i ffwrdd Blewyn! :ofn: