Tudalen 1 o 1

Sboted - rhyfeddodau'r tymhorau

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 2:51 pm
gan khmer hun
Meddwl se hwn yn gweddu i'r sboteds byd natur - y gwyrthiau naturiol 'na sy'n eich taro'n fud ambell dro ar eich taith drwy'r byd.


Bore ma, weles i enfys fawr lydan yn plymio mewn i'r creigiau ym mhen gogleddol llyn Cwellyn wrth odre'r Wyddfa (wel, ochr arall y ffordd). O'dd yr olygfa'n ddigon i stopio calon dyn.

Rhywun arall 'di gweld ryw olygfa wyrthiol yn nhreigl y tymhorau?

Re: Sboted - rhyfeddodau'r tymhorau

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 3:37 pm
gan Iesu Nicky Grist
khmer hun a ddywedodd:Rhywun arall 'di gweld ryw olygfa wyrthiol yn nhreigl y tymhorau?


Fi'n credu weles i houl dros Llanelli heddi. Ond sai'n siwr 'fyd. Falle mai floodlights y Strade sy'n gryf. O, a weles i menyw mewn sgert fer heb deits ddoe. Braidd yn oer a dweud y lleia...

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 3:44 pm
gan khmer hun
Hurghm :? :| [ma eisie gwenoglun o Lisa Simpson pan ma' Bart yn gweud rhywbeth anaeddfed]

O'n i'n gofyn amdani falle wrth fod mor flodeuog....

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 4:36 pm
gan Mali
Beth am liwiau'r hydref.....
http://www.flickr.com/photos/mali/54329798/

Gyda llaw, mi welais inna ferch yn gwisgo ffrog ha ddoe hefyd
:?

Re: Sboted - rhyfeddodau'r tymhorau

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 4:42 pm
gan Fflamingo gwyrdd
khmer hun a ddywedodd:Rhywun arall 'di gweld ryw olygfa wyrthiol yn nhreigl y tymhorau?


Y lleuad dros Gaerdydd nos Lun. Llawn, ac wedi ei orchuddio efo cymylau niwlog. Hudol a hyfryd...yn wir...

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2005 8:22 pm
gan Dai dom da
Wedd hin bwrw glaw shwt gwmynt nos lun diwetha roedd rhaid i fi ddreifo nol yr holl ffordd o aberteifi i flaenffos ar y 30mph marc. A pan cyrraeddes i getre wedd peil o dail wedi stico dros y bonet i gyd.

Ond seriously ddo, wedd heddi'n eitha weird but magical at the same time. Un munud wedd hin heulog neis a'r next minute wedd hi'n bwrw glaw big time - digwyddodd hyn biti 4 waith, syn golygu biti 4 enfys. Whar-e-teg.

P.S. Ma ffwl o cousin fi wastod yn gwisgo sandals ambiti'r lle, hyd yn 'od mas in pissing rain, ffacinel. :rolio:

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 1:23 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
mynd i borthdinllaen nos sul, dim adyn byw yna ond dau gymro bach yng nghanol tai ha' gwag canol gaea'. dim deryn na hyd yn oed ton yn y mor, teimlad fatha bod pawb a phopeth yn cuddio blaw ni. sleifio dros y clwb golff wrth i'r haul fachlud ar y ffor yn ol. sortiodd 'yn hangofyr i eniwe! nais edefyn x

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 6:37 pm
gan Mali
Golygfa hyfryd ar y ffordd i lawr llethrau Washington ddoe:
http://www.flickr.com/photos/mali/96571163/

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 7:28 pm
gan Ramirez
Dai dom da a ddywedodd:P.S. Ma ffwl o cousin fi wastod yn gwisgo sandals ambiti'r lle, hyd yn 'od mas in pissing rain, ffacinel. :rolio:


Mae hynny'n syniad, ti'n gweld. Dim sanau gwlyb, dim 'sgidiau gwlyb. Dim ond traed gwlyb, sydd lot llai o hasl. Union yr un 'principle' a gwisgo shorts neu tryncs i nofio. Cyn belled dy fod di ddigon cynnes, ma'n gneud lot o sens i wisgo cyn lleied a bosib pan mae'n wlyb. Onid ydyw?

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 12:04 pm
gan Dai dom da
Ramirez a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:P.S. Ma ffwl o cousin fi wastod yn gwisgo sandals ambiti'r lle, hyd yn 'od mas in pissing rain, ffacinel. :rolio:


Mae hynny'n syniad, ti'n gweld. Dim sanau gwlyb, dim 'sgidiau gwlyb. Dim ond traed gwlyb, sydd lot llai o hasl. Union yr un 'principle' a gwisgo shorts neu tryncs i nofio. Cyn belled dy fod di ddigon cynnes, ma'n gneud lot o sens i wisgo cyn lleied a bosib pan mae'n wlyb. Onid ydyw?


O bosib, ydyw.