Ooooooo
Mae gen i homar o dderwen fawr neis yn yr ardd, ond dim un deryn. Mae 'na ambell i bioden yn galw heibio, ond dyna'r cwbl.
Mi ecseitish bora 'ma pan welish i fywyd ar fy mwrdd adar (oes MAE gen i un, AC mae 'na fwyd adar arno fo, ac yn hongian ar y goeden) - ond OCH! Dwy blydi wiwer oedd yno - y ddwy yn isda'n ddel o dan y tô ar y bwrdd, yn bwyta'r bwyd! Wnaeth y sglyfaethod ddim ymateb i fi'n gweiddi atyn nhw. Rownd y gornel, yn cuddio rownd cornel y sied, roedd 'na gath fawr dew yn sbeio arnyn nhw. Mi esh i llnau'nannedd a phan ddes i'n ôl, roedd y wiwerod wedi diflannu, a'r gath yn eistedd fel bownsar wrth droed y bwrdd.
Pah.
Awtcym - wiwerod tew, a chathod tewach decini.