Cofiwch am yr adar bach...

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Llun 20 Tach 2006 8:06 pm

Dwy gigfran anferth a thitw cynffon hir heddiw. Hyfryd iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Llun 20 Tach 2006 8:46 pm

Ti'n gwneud i mi deimlo'n reit euog Dili......heb roi dim bwyd allan hyd yma i'n ffrindiau bach :wps: .
Ar wahân i roi hadau pwmpen i'r jays....
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Mer 22 Tach 2006 10:30 am

Nawr 'te, dyw euogrwydd ddim yn dda i neb. :winc: A dweud y gwir, yr unig reswm dwi'n rhoi cymaint o fwyd mas yw bod y meibion yn cwyno os nad oes adar i'w gweld yn yr ardd amser brecwast. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Iau 30 Tach 2006 6:06 am

Ydy, mae'n braf i'w gweld nhw, ac maent yn dod a llawer o bleser i ni drwy'r flwyddyn. :D
Mae'r bwydydd adar bellach wedi ei osod ac yn llawn o hadau . Hefyd wedi gosod siwet mewn cawell oddi ar y goeden ceirios. Wedi cael eira mawr yma heddiw , ond mi ddaeth yr adar i fwydo . :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 15 Rhag 2006 11:06 am

Cyfle newydd i weld y frân goesgoch/brân Gernyw/brân Arthur ar Ynys Môn. Mae pâr yn nythu yng Nghernyw hefyd, lle y bu'r rhywogaeth yn absennol ers 1973 er gwaethaf ei chysylltiau hanesyddol hirhoedlog â'r sir.

Gwefan RSPB a ddywedodd:The year 1947 saw the last successful nesting attempt in Cornwall. An ageing pair of choughs lived near Newquay between 1960-1967 but one of the pair was found dead in March 1967. Its partner patrolled the cliffs alone until 1973 when it too, the last of the Cornish choughs, was seen no more :crio: .

I'r rhai sy'n teimlo'n ieithyddol fentrus, mae pwt am yr aderyn dan sylw ar Wikipedia Cernyweg.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Bendigeidfran » Gwe 15 Rhag 2006 2:14 pm

Mae na un robin goch bach hynod eofn yn ein gardd ni'n gyson, yn ffraeo hefo'r adar eraill byth a hefyd, a thrio eu hel nhw i ffwrdd o'r bocsys nythu, y peli siwat a'r bwydwyr. Ond mi aeth gam ymhellach bore ddoe - mi ddaeth i mewn i'r stafell haul a dyna lle'r oedd o'n hopian ar hyd silff y ffenast. A be oedd o'n ei wneud yno, blaw cachu'n bob man, ond pryfocio'r ddau gi sy gen i - cadw rhyw fodfedd neu ddwy oddi wrth eu trwyna nhw a hwytha'n cyfarth nerth eu penna arno fo.
Ddim gwerth cnec mochyn coron
Rhithffurf defnyddiwr
Bendigeidfran
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Mer 22 Tach 2006 1:40 pm
Lleoliad: Aberpennar

Postiogan Cadno » Gwe 15 Rhag 2006 3:11 pm

Dwi newydd brynu pecyn ‘gwledd i adar’ - 5 bag bach llawn hadau - ag rhoi rhai yn yr ardd. O nunlle daeth 5 Robin Goch i’r wledd ac roedd rhaid i’r brain tew sbïo’n drist wrth fwyta bara sych!!
Rhithffurf defnyddiwr
Cadno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Mer 29 Tach 2006 10:40 am
Lleoliad: Mewn twll

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 15 Rhag 2006 5:16 pm

Mond brain, pîod sy'n fama, a gwylanod swnllyd ar ddydd Mawrth-y-bins. Wedi rhoi hadau allan 'fyd. Mi aethon i gyd i rhywle llynnedd. Pîod ella?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 15 Rhag 2006 8:32 pm

Mae'r brain coesgoch yn werth i'w gweld - gwelsom hwy ar daith i Ynys Lawd ddiwedd yr ha'. Braaaf :)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 15 Rhag 2006 8:37 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd: Braaaf :)


Naci, braaan!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai