Cofiwch am yr adar bach...

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cofiwch am yr adar bach...

Postiogan Mali » Maw 29 Tach 2005 9:31 pm

...yn ystod y tywydd oer.
Newydd osod bwydydd adar ar y goeden ceirios . Eleni , da ni wedi rhoi 'sunflower seeds' i mewn yn unig gan fod yr hadau llai yn dueddol o ddisgyn i'r ddaear a gwastraffu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Mer 30 Tach 2005 8:03 pm

Cytuno. Mae teclyn cnau gyda ni yn y goeden ellyg, a dwi wedi rhoi bwrdd bach at ei gilydd o sbarion pren a dwi'n rhoi caws, bara a chyrens ar hwnna. Mae'n bosibl hefyd gwneud rhywfath o gacen i'r adar efo bloneg a sbarion o'r gegin. Cerwch at yr RSPB am fwy o wybodaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan nicdafis » Mer 30 Tach 2005 9:47 pm

Mae gen ni beth bach sy'n stico ar y ffenest, neis iawn. Ond mae pobl drws nesa yn bwydwyr o fri, felly dyn ni'n cael mwynhau gweld yr adar hyfryd, heb fynd i'r trafferth o'u bwydo ein hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan HBK25 » Mer 30 Tach 2005 9:49 pm

Mae gen i gathod adref, felly dwi'm yn gweld llawer o adar :winc: :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan denzil dexter » Mer 30 Tach 2005 10:01 pm

Dwi'n cofio ambell flwyddyn yn ol y fath siom a gefais, pan agorais y papur anrhegion un bore Nadolig, a darganfod ffocin thing yn llawn o gnau efo stand ar y gwaelod i fwydo adar?????? Diolch mam....oedd o jest be o'n isho :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Postiogan Mali » Maw 06 Rhag 2005 11:45 pm

:lol:
Wel, dim ond gobeithio dy fod ti wedi gwneud defnydd ohono!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Mer 07 Rhag 2005 8:48 am

Alla i ddim aros i symud i fy nhy newydd er mwyn cael gardd. A lein ddillad. Ac adar. Fatha Nwdls a Mali.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan HBK25 » Mer 07 Rhag 2005 8:51 am

Sa'n well gen i weld eryr neu condor yn hefan o gwmpas Morfa Bychan na Titw Tomos Las, ond dyna fo :crio: :syniad:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Mali » Mer 07 Rhag 2005 5:34 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Alla i ddim aros i symud i fy nhy newydd er mwyn cael gardd. A lein ddillad. Ac adar. Fatha Nwdls a Mali.


Helo Fflamingo!
Diolch i ti am fy nghyfeirio at flog Nwdls...diddorol oedd sylwi ei fod wedi gwneud rhestr o'r holl adar 'roedd o wedi weld ar
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 07 Rhag 2005 11:03 pm

Waw, Stellars Jay yn cwl o dderyn. Swn i'n lecio cael amball un o rheina yn r'ar. Unrhywbeth arall digfyr wedi dod i bigo'r hadau? Oedd na Fronfraith yn yr ardd ddoe 'fyd. Un arall i'r rhestr.

Rhestr hirfaith o enwau Cymraeg adar Prydain fan hyn i chi sy fo diddordab.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron