Cofiwch am yr adar bach...

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dili Minllyn » Sad 03 Chw 2007 8:55 am

Yng ngardd un o'm ffrindiau fi, mae'r gwiwerod wedi cnoi twll yn y basged cnau, a'r titwod glas yn glanio arno a'i siglo nes bod y cnau'n disgyn ar lawr, lle mae'r sguthanod yn eu bwyta. Welais i erioed y fath fodel o sosialaeth gydweithredol ymysg anifeiliad o'r blaen. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Sad 03 Chw 2007 8:51 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Delwedd Delwedd Delwedd
Y bastyn hy!


Del iawn Fflamingo . :winc:
Newydd gael pamffled drwy'r post gan y Canadian Wildlife Federation, ac yn digwydd bod ,'roedd ganddynt wybodaeth ar be oedden nhw'n alw ' Birdfeeder Bullies' ! :lol:
Eniwê, 'roedd na baragraff ynddo yn sôn am wiwerod :

Your best chance at thwarting squirrels is to place feeders on posts with a baffle underneath. Position them at least three metres from launching points such as trees or fences.


Beryg fydd rhaid i ti symud dy fwydydd adar .....werth trio beth bynnag. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 04 Chw 2007 10:46 am

Wedi gwneud - mae o bellach yr ochor arall i'r ardd. Er, mae gwiwerod yn ddringwyr da, felly dwn i'm sut gwnaiff hynny lawer o wahaniaeth.

P'run bynnag - erbyn neithiwr, mi roedd gen i bioden ar y bwrdd. O leia mae pethau'n symud i'r cyferiad iawn!

Mae Mami a Dadi Fflamingo yma'r penwythnos yma, a chan eu bod nhw'n fore-godwyr, mi eisteddon yn bwyta'u brecwast wrth ffenast y gegin a gweld - TRI ROBIN GOCH, DAU TITW TOMOS LAS A MWYALCHEN! yn fy nerwen! 8)

RISYLT!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 04 Chw 2007 10:46 am

(mi welon nhw gath a gwiwer hefyd)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Llun 05 Chw 2007 11:23 pm

Falch iawn o ddarllen fod yr adar yn dechrau dod at y bwydydd. :D
'Roeddwn innau'n meddwl am y wiwerod yn dringo i ben y bwydydd hefyd, ond mae'n rhaid eu bod well ganddynt neidio arno am ryw reswm.
Gobeithio bydd yr adar bach yn dal i ddod draw ..... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Iau 08 Chw 2007 2:03 pm

Gobeithio bod pawb wedi sgubo'r eira oddi ar fwrdd yr adar bore 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 08 Chw 2007 2:28 pm

Wedi gweld triawd o ditw cynffon hir bron yn ddof yn y Gerddi Botaneg, a dau aderyn na welais i rioed o'r blaen ar y Mynydd Du - Bronwen y Dŵr (Dipper) a Thinwen y Garn (Wheatear).

Doedd gan y Fronwen ddim cymaint o frown ag mae llun yr RSPB yn ei ddangos, ond efllai fod plu'r gaeaf yn edrych yn dduach.

Ches i ddim golwg dda ar y Dinwen, ond roedd na'n sicr fflach o las golau ac oren/melyn yno. Efallai taw Delor y Cnau oedd o, ond doedd na ddim coed mewn golwg.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dili Minllyn » Iau 02 Awst 2007 11:02 am

Yn ôl adroddiad diweddar, mae’r haf gwlyb wedi bod yn wael iawn i un o’n hadar harddaf, betrisen.
Golygwyd diwethaf gan Dili Minllyn ar Iau 02 Awst 2007 8:22 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 02 Awst 2007 12:50 pm

Rhaid i fi ddeud mod i wedi cael gwledd o adarydda yn Enlli. Yr Adar Drycin Manaw yn anghygoel, ac roedd hi'n wych cael gweld Pâl am y tro cynta.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dili Minllyn » Iau 02 Awst 2007 8:25 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Roedd hi'n wych cael gweld Pâl am y tro cynta.

Mi welais rai ar Ynysoedd Farne flynyddoedd yn ôl. Adar hyfryd iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron