Tudalen 13 o 13

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2008 12:40 am
gan Mali
Bwmp i hwn eto ...jyst i'ch hatgoffa.
Tra bod ni ffwrdd 'roedd yr adar bach yn ddigon hapus efo'r siwet, ond da ni 'di rhoi'r bwydydd adar ar y goeden erbyn hyn.
Wedi gwirioni ! :D

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2008 8:28 pm
gan Rhodri Nwdls
Dili Minllyn a ddywedodd:Haid o ditwod cynffon hir yn y goeden ellyg bore 'ma. Yn ôl y sôn, mae'r adar 'ma'n tueddu'n fwyfwy i ddod i erddi i fwyta bwyd sydd wedi'i roi allan yno.

Wedi cael haid fendigedig yn r'ardd am y tro cynta wsnos dwetha. Ma nhw'n betha bach hynod dydyn.

Wedi sbotio Crëyr Bach a Pibydd Coesgoch heddiw ar draeth Portmeirion. :)

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2008 9:36 pm
gan osian
Dwi'n siwr mod i 'di gweld Creyr Bach yn Abersoch cyn Dolig, a rhywun arall di weld o yn bellach i fyny'r afon Soch. dyn nhw yn nythu yng Nghymru wan?

dim 'mod i di clywad am greyr bach tan bythefnos yn ol :?

Re:

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 7:40 pm
gan Dili Minllyn
osian a ddywedodd:Dwi'n siwr mod i 'di gweld Creyr Bach yn Abersoch cyn Dolig, a rhywun arall di weld o yn bellach i fyny'r afon Soch. dyn nhw yn nythu yng Nghymru wan?

dim 'mod i di clywad am greyr bach tan bythefnos yn ol :?

Maen nhw'n mynd yn fwy cyffredin yn yr ynysoedd hyn, yn ôl pob sôn. Ro'n i'n synnu eu gweld nhw yn ne Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl , ond mae rhai'n dweud 'bod nhw wedi cyrraedd gogledd Cymru erbyn hyn.