aberdarren a ddywedodd:nicdafis a ddywedodd:Newydd gynnig sefydlu grwp yn Aberteifi/De Ceredigion.
Beth am gyd-weithio fel rhan o un grwp ar gyfer Ceredigion ?
Pan wnes i gynnig ddechrau grwp De Ceredigion (ym mis Ebrill), doedd dim grwp Ceredigion cyfan, dim ond yr un yn Aberystwyth. Ro'n i'n aelod y grwp hwnna, a'r grwpiau yn Sir Benfro a Sir Gâr. Yr unig rheswm wnes i gynnig i ddechrau grwp newydd oedd bod "bwlch ar y map" rhwng y tri grwp yma. Yn amlwg ddigon, fyddwn i byth wedi cynnig sefydlu grwp De Ceredigion 'sai grwp am Geredigion cyfan wedi bodoli eisioes.
Ar ôl i mi wneud y cynnig, gwelais i fod Grwp Aberystwyth wedi troi'n grwp Ceredigion, felly meddyliais i taw dyna oedd diwedd y mater. <i>Problem solved.</i>
Wedyn clywais i i fod dim hawl 'da nhw wneud hyn heb caniatâd grwp llywio Freecycle UK, a wnaethon nhw newid yn ôl i fod yn Grwp Aberystwyth.
A nawr dw i'n cael yr argraffiad fy mod i wedi pechu ar rhywun, neu rywrai, gan gynnig i sefydlu grwp yng Ngodre Ceredigon. Dw i wedi awgrymu, sawl gwaith, i Lynn Heron ac i Jacqui Holden, fy mod i'n tynnu'r cynnig yn ôl a gadael i Freecycle Aberystwyth newid i fod i Freecycle Ceredigion.
Ga' i wneud yr un peth yma, nawr? Plîs, byddai'n lot well 'da fi 'sai grwp Aberystwyth yn neud beth o'n nhw'n trial neud. Nid fi wnaeth eu stopio.
Arna i mai'r bai (mae'n debyg) am beidio cysylltu â Grwp Aberystwyth cyn i mi lenwi'r ffurflen ar wefan Freecycle.org, ond do'n i wir ddim yn rhagweld bod hynny yn mynd i achosi problem i neb. Ers i mi gael gwybod bod trefnydd Aberystwyth ddim yn hapus gyda fy nghais dw i wedi cynnig ei ddiddymu, sawl gwaith.
Beth bynnag dw i'n neud nawr dw i'n gweld y bydda i'n pechu ar rywun. Dw i ddim yn gwybod beth i'w neud ond dweud wrth Jacqui Holden mod i wedi newid fy meddwl am sefydlu'r grwp newydd.
Ai dyna beth fyddet ti'n awgrymu?