Freecycle a Map o Gymru

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Mer 06 Medi 2006 5:24 pm

(Dim ond nawr dw i'n gweld hyn, sori.)

aberdarren a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:Newydd gynnig sefydlu grwp yn Aberteifi/De Ceredigion.


Beth am gyd-weithio fel rhan o un grwp ar gyfer Ceredigion ?


Pan wnes i gynnig ddechrau grwp De Ceredigion (ym mis Ebrill), doedd dim grwp Ceredigion cyfan, dim ond yr un yn Aberystwyth. Ro'n i'n aelod y grwp hwnna, a'r grwpiau yn Sir Benfro a Sir Gâr. Yr unig rheswm wnes i gynnig i ddechrau grwp newydd oedd bod "bwlch ar y map" rhwng y tri grwp yma. Yn amlwg ddigon, fyddwn i byth wedi cynnig sefydlu grwp De Ceredigion 'sai grwp am Geredigion cyfan wedi bodoli eisioes.

Ar ôl i mi wneud y cynnig, gwelais i fod Grwp Aberystwyth wedi troi'n grwp Ceredigion, felly meddyliais i taw dyna oedd diwedd y mater. <i>Problem solved.</i>

Wedyn clywais i i fod dim hawl 'da nhw wneud hyn heb caniatâd grwp llywio Freecycle UK, a wnaethon nhw newid yn ôl i fod yn Grwp Aberystwyth.

A nawr dw i'n cael yr argraffiad fy mod i wedi pechu ar rhywun, neu rywrai, gan gynnig i sefydlu grwp yng Ngodre Ceredigon. Dw i wedi awgrymu, sawl gwaith, i Lynn Heron ac i Jacqui Holden, fy mod i'n tynnu'r cynnig yn ôl a gadael i Freecycle Aberystwyth newid i fod i Freecycle Ceredigion.

Ga' i wneud yr un peth yma, nawr? Plîs, byddai'n lot well 'da fi 'sai grwp Aberystwyth yn neud beth o'n nhw'n trial neud. Nid fi wnaeth eu stopio.

Arna i mai'r bai (mae'n debyg) am beidio cysylltu â Grwp Aberystwyth cyn i mi lenwi'r ffurflen ar wefan Freecycle.org, ond do'n i wir ddim yn rhagweld bod hynny yn mynd i achosi problem i neb. Ers i mi gael gwybod bod trefnydd Aberystwyth ddim yn hapus gyda fy nghais dw i wedi cynnig ei ddiddymu, sawl gwaith.

Beth bynnag dw i'n neud nawr dw i'n gweld y bydda i'n pechu ar rywun. Dw i ddim yn gwybod beth i'w neud ond dweud wrth Jacqui Holden mod i wedi newid fy meddwl am sefydlu'r grwp newydd.

Ai dyna beth fyddet ti'n awgrymu?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Freecycle a Map o Gymru

Postiogan nicdafis » Mer 06 Medi 2006 7:45 pm

Felly, i grynhoi:

aberdarren, 8 Ionawr 2006 a ddywedodd:Hefyd, mae angen fwy o grwpiau yn Siroedd Ceredigion a Phowys


nicdafis, 27 Ebrill 2006 a ddywedodd:Newydd gynnig sefydlu grwp yn Aberteifi/De Ceredigion.


aberdarren, 16 Gorffennaf 2006 a ddywedodd:Beth am gyd-weithio fel rhan o un grwp ar gyfer Ceredigion ?

Dyma fy mharn personol. Mae dy gais newydd ddod i'r amlwg yn ein rhestrau trafod preifat.

Prif gryfder y grwpiau Cymreig - fel gornel fach iawn o rwydwaith eang - yw ein parodrwydd i gyd-weithredu a chyd-weithio er lles pawb.


Mae'n amlwg bod dy farn personol wedi cael eitha lot i'w neud â hyn.

Ta waeth, dw i wedi gofyn i Jacqui ganslo fy nghais.

Llongyfarchiadau. :-|
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys » Iau 07 Medi 2006 1:54 pm

Mae na bethau rhyfedd yn digwydd tu ôl i'r llen gyda Freecycle. Dwi wedi cofrestru gyda sawl un yn y de ddwyrain.

Ddoe derbynais y neges hwn

Hello former Freecycle member,
http://groups.yahoo.com/group/RhonddaCy ... FreeCycle/ is part of an international movement with thousands of groups all over the world. The group you were a part of yesterday has had it's name changed by one of the owners and is no longer a part of the Freecycle family. If you would like to return to a Freecycle group in your area, please accept this invitation to join us. Your name was pulled from a back-up list from all the members of the RhonddaCynonTaff_FreeCycle group, and this is not a random message.


Derbynais e-bost dyddiol heddiw gan:

[url=http://groups.yahoo.com/group/RhonddaCynonTaff_Ecycle/]RhonddaCynonTaff_Ecycle
[/url]
Felly mae'r grwp roeddwn/dal yn aelon ohono arfer bod yn grwp Freecyle RhCT, ond rwan mae'n Ecycle RhCT, ac mae grwp Freecycle newydd ar gyfer RhCT.

Be ddiawl di'r gwahaniaeth?

Mae'r person nath ddechrau Freecycle yn yr UDA wedi colli'r plot dwi'n meddwl, drwy geiso cael hawlfraint ar yr enw (sydd ddim yn syniad rhy wirion efallai) a mynnu bod pawb yn defnyddio prif lythyren pan yn defnyddio'r gair a gwahardd pobl rhag cyfeirio at eu gilydd fel 'freecycler' a rhyw lol felly [stori yma]. Trist o beth

(ac mae Yahoo Groups yn llwyth o gachu, be bynnag di enw'r grwp)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan aberdarren » Maw 12 Medi 2006 9:00 pm

Rhys a ddywedodd:Mae na bethau rhyfedd yn digwydd tu ôl i'r llen gyda Freecycle. Dwi wedi cofrestru gyda sawl un yn y de ddwyrain.

Ddoe derbynais y neges hwn

Hello former Freecycle member,
http://groups.yahoo.com/group/RhonddaCy ... FreeCycle/ is part of an international movement with thousands of groups all over the world. The group you were a part of yesterday has had it's name changed by one of the owners and is no longer a part of the Freecycle family. If you would like to return to a Freecycle group in your area, please accept this invitation to join us. Your name was pulled from a back-up list from all the members of the RhonddaCynonTaff_FreeCycle group, and this is not a random message.


Derbynais e-bost dyddiol heddiw gan:

[url=http://groups.yahoo.com/group/RhonddaCynonTaff_Ecycle/]RhonddaCynonTaff_Ecycle
[/url]
Felly mae'r grwp roeddwn/dal yn aelon ohono arfer bod yn grwp Freecyle RhCT, ond rwan mae'n Ecycle RhCT, ac mae grwp Freecycle newydd ar gyfer RhCT.

Be ddiawl di'r gwahaniaeth?

Mae'r person nath ddechrau Freecycle yn yr UDA wedi colli'r plot dwi'n meddwl, drwy geiso cael hawlfraint ar yr enw (sydd ddim yn syniad rhy wirion efallai) a mynnu bod pawb yn defnyddio prif lythyren pan yn defnyddio'r gair a gwahardd pobl rhag cyfeirio at eu gilydd fel 'freecycler' a rhyw lol felly [stori yma]. Trist o beth


Mi rydw i wedi cysylltu â Nic Dafis er mwyn ymddiheuro mewn perthynas â beth ddigwyddodd i'w gais i greu grwp ailgylchu Freecycle yn Nhe Ceredigion. Roeddwn i yn edrych ymlaen at weld cyfraniad Nic Dafis ac yn teimlo braidd yn anniddig fel yr unig Cymro Cymraeg oedd yn trefnu grwp Freecycle. Ond...

Dwi ac eraill wedi gadael y 'rhwydwaith' TFN (The Freecycle Network).

Os gaf ddyfynnu fy hun (sic) : "mi gadewais y rhwydwaith ar sail egwyddor... yn bennaf (a) dylid parchu pobol, hawliau pobol, preifatrwydd pobol, cyfraniad pobol, y gwahaniaethau ddiwylliannol sydd rhyngom ayyb. (b) dylswn rhedeg grwpiau ailgylchu er lles y gymuned a'r amgylchedd, nid er mwyn i fusnes Americanaidd elwa".

Newidiwyd enw y grwp (uchod) i "ecycle" er mwyn osgoi defnyddio "Freecycle". Fe cofrestrwyd "Freecycle" fel enw fasnachol yn Ewrop ym mis Chwefror 2006... fedrwch cadarnhau ac ymchwilio fan yma.

Mae dy gwestiwn - Be ddiawl di'r gwahaniaeth? - yn hynod o bwysig.

Un o'r prif wahaniaethau yw hyn, os wyt yn rhan o Freecycle mi wyt yn rhan o ryw fath o McDonalds ail-gylchu : Americanwr (Deron Beal) sy'n pia'r enw a'r rhwydwaith, ac yn elwa ar ddiwedd y dydd.

Rwy'n mawr obeithio gallwn creu rhwydwaith amgen Gymreig.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan nicdafis » Mer 13 Medi 2006 4:52 pm

"Haelgylchu"?

Wnes i awgrymu hyn i drefnwyr Freecycle a dwedon nhw doedd dim modd cyfieithu enw FC, gan taw trademark yw e. Syniad fy mhartner yw e, ond does dim hawlfraint arno ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Fatbob » Iau 14 Medi 2006 9:32 am

nicdafis a ddywedodd:"Haelgylchu"?

...ond does dim hawlfraint arno ;-)


Ddim eto Nic, dwi bant i roi hawlfraint arno fe, heddi potie blode am ddim, fory fyddai'n bennaeth ar Mc Donalds ail-gylchu Cymru, mwhahaha mwhahaha[mewn steil Dr Evil].

Nol at y drafodaeth... Yw'r newid 'ma o Freecycle i Ecycle neu ta beth fydd yr enw newydd yn digwydd dros Gymru gyfan? Dwi'n aelod o Freecyle Sir Gâr ag Abertawe - sganio dryw'r e-byst dwi'n wneud ond dwi'm yn cofio clywed sôn fod ein rhai ni'n newid i henwau.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan aberdarren » Gwe 12 Ion 2007 8:26 pm

Fatbob a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd:"Haelgylchu"?

...ond does dim hawlfraint arno ;-)


Ddim eto Nic, dwi bant i roi hawlfraint arno fe, heddi potie blode am ddim, fory fyddai'n bennaeth ar Mc Donalds ail-gylchu Cymru, mwhahaha mwhahaha[mewn steil Dr Evil].

Nol at y drafodaeth... Yw'r newid 'ma o Freecycle i Ecycle neu ta beth fydd yr enw newydd yn digwydd dros Gymru gyfan? Dwi'n aelod o Freecyle Sir Gâr ag Abertawe - sganio dryw'r e-byst dwi'n wneud ond dwi'm yn cofio clywed sôn fod ein rhai ni'n newid i henwau.


Dyna dewis sy'n gwynebu'r rhai sy'n rhedeg y grwpiau yng Nghymru ... os ydynt am fentro y tu allan i franchise Americanaidd Freecycle.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron