Rwy newydd diweddaru Map o Gymru sy'n dangos datblygiad y Rhwydwaith Ailgylchu Freecycle ar draws y wlad.
Egluro'r map : mae'r sgwariau coch yn dynodi presenoldeb grwp Freecycle yn y Sir. Gweler y dudalen yma am restr o grwpiau a chysylltiadau.
Beth yw Freecycle ?
Mudiad ailgylchu byd-eang yw Freecycle
Pwrpas y rhwydwaith yw i atal pethau rhag mynd i gladdfeydd sbwriel.
Mae yna broblem enfawr yng Nghymru. Gweler y stori yma ar y BBC (yn Saesneg).
Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am redeg y rhwydwaith trwy cynnal grwpiau lleol.
Fe ddefnyddir e-bost i hysbysu bobol am eitemau i'w ailgylchu yn lleol.
Rhaid i bopeth fod yn RHAD AC AM DDIM. Dyma egwyddor pwysicaf Freecycle. Nid lle i drafod arian na thaliadau yw Freecycle ond lle i fyd yn anrhegwr. Er mwyn annog pobol i roi rhaid i bob aelod newydd cynnig rhywbeth i'w ailgylchu fel neges cyntaf i'r grwp.
Y mae grwpiau Freecycle yn llwyddo ailgylchu nifer fawr o fathau o eitemau gan gynnwys dodrefn, dillad, offer trydanol, tocynnau ar gyfer cyngherddau... hyd yn oed ceir. Ac wrth gwrs, fe welwch un neu ddau bethau sydd yn ddigrif, megis copi o'r South Wales Echo a ailgylchwyd o un ochor o Gaerdydd i'r llall. Ac mae yna sawl gwr annoeth wedi ceisio ailgylchu ei wraig, ond wrth gwrs fe ddileuwyd negeseuon o'r fath!
Ystadegau
3,300 o grwpiau Freecycle a 1.8 miliwn aelodau. 190 grwp yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyda 90,000 o aelodau. 20 grwp yng Nghymru gyda 2,800 o aelodau.
Yn ystod 2005 fe welodd Cymru cynnydd aruthrol yn yn nifer o grwpiau a ddefnyddwyr. Freecycle Caerdydd yw ein grwp fwyaf yng Nghymru gyda 1,100 o aelodau.
Pa fath o bethau a ailgylchwyd yn ddiweddar yng Nghymru ?
sustem HIFI; offer gwneud pasta; bwrdd coffi; sgidie; bin sbwriel; pob fath o ddodrefn; gliniadur neu laptop; gwyddau; beic; meicrodon; llawer o bethau yn ymwneud a babis!; gwresogydd; hwfer; teledu; planhigyn ar gyfer y ty; tanc pysgod; ieir; cyfrifiadur a sawl VDU ... ayyb.
Fedrwch chi ofyn am bethau hefyd cofiwch !
Sut fedraf ymuno ?
Ewch i wefan Freecycle www.freecycle.org a chwiliwch o dan "United Kingdom" am eich grwp lleol.
Oes galw am siaradwyr Cymraeg ?
Mae angen gwirfoddolwyr o bob math ac yn enwedig siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o natur aml-ieithol Freecycle yn y dyfodol.
Ardaloedd yng Nghymru lle mae yna angen cymorth arbennig
Rydym yn awyddus i weld gwirfoddolwyr yn trefnu grwpiau yn yr ardaloedd a ganlyn :
Blaenau Gwent a Torfaen yn y De
Sir F