Mae parotan dorchog o'r India bellach yn un o'r adar mwyaf cyffredin mewn rhai rhannau o Brydain. Ffrwythau yw prif fwyd y mewnfudwyr gwyrddion, ffaith sy'n peri pryder i rai o berchnogion perllannau de Lloegr. Mae rhai'n poeni y bydd effaith y barotan dorchog yn debyg iawn i un y wiwer lwyd: dinistrio coed a gyrru adar brodorol o'r fro.
Mi hedodd haid o'r adar hyn reit o flaen ffenestr y car gyda'r hwyr ddoe, a finnau ar gyrion gorllewin Llundain yn gyrru ar hyd yr M4 tua Chymru. Gwefreiddiol.
Mi welais i ragor o'r rhain neithiwr uwchben Afon Tafwys ar bwys Cae Rasio Windsor. Mae siâp hyfryd iawn gyda nhw wrth hedfan a'u cynffonau hir ymestyn tu ôl iddyn nhw, ac mae rhywbeth eithaf iasol am eu sgrech.