lleuad neithiwr!

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

lleuad neithiwr!

Postiogan eifs » Sad 11 Chw 2006 3:34 pm

welodd rhywun e? :ofn:

blanced enfawr o gymylau, ond roedd na gylch mawr o awyr clir o amgylch y lleuad, roeddwn i yn panicio dipyn oherwydd dwi heb weld o or blaen. oes na unrhyw esboniad i'r fath ddigwyddiad?

:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Al » Sad 11 Chw 2006 3:47 pm

Mae na sgwrs am hyn yn y cylch gwyddoniaeth, fama a dyma esboniad, fama(diolch i 7ennyn)

A diolch i Dafydd am atgoffa yr un a roedd yn Caerdydd

eifs a ddywedodd:welodd rhywun e?


ac ers pryd ti di troi yn hwntw? :winc:
Al
 

Postiogan 7ennyn » Sad 11 Chw 2006 4:35 pm

Mae yna drafodaeth yn y Cylch Gwyddoniaeth am hyn.

Mae'r rhith yma'n cael ei achosi gan gymylau o grisialau rhew bychan iawn yn uchel yn yr awyr. Mae'r crisialau bach hyn yn 'plygu' cyfran o olau'r lleuad o rhyw 22 gradd. Golyga hyn bod arsyllwr yn gweld 'twll' crwn o beth sydd yn ymddangos fel awyr glir o amgylch y lleuad. Mewn gwirionedd mae'r crisialau yn dal yno, ond bod y golau yn cael ei blygu i ffwrdd o'r arsyllwr. Ond mae'r crisialau sydd y tu allan i'r cylch o 22 gradd o amgylch y lleuad yn plygu rhywfaint o olau'r lleuad tuag at yr arsyllwr ac felly mae'r cwmwl o grisialau rhew yn ymddangos fel ei fod yn cael ei oleuo i fyny.

Eglurhad gwell fan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan 7ennyn » Sad 11 Chw 2006 4:37 pm

D'oh! :wps:

Al wedi ennill y blaen! Dwi ddim yn deipiwr cyflym iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Gwion JJ » Sad 11 Chw 2006 4:37 pm

Do nesi weld o - 'weird' doedd.
Ond dos na'm byd i boeni am:

http://home.hiwaay.net/~krcool/Astro/moon/moonring/
Gwion JJ
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 139
Ymunwyd: Maw 09 Awst 2005 5:11 pm
Lleoliad: Caerdydd / Pandy Tudur

Postiogan eifs » Sad 11 Chw 2006 7:46 pm

Al a ddywedodd:
eifs a ddywedodd:welodd rhywun e?


ac ers pryd ti di troi yn hwntw? :winc:


:rolio:


diolch am yr esboniad 7ennyn, blincin weird ta be!
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron