Tudalen 1 o 1

Y gnocell pig ifori: yn ôl o'r bedd neu beidio?

PostioPostiwyd: Gwe 17 Maw 2006 7:18 pm
gan Dili Minllyn
Er gwaetha'r straeon diweddar, mae'n bosibl nad yw'r gnocell pig ifori wedi ailymddangos yng nghorsydd Lousianna am y tro cyntaf ers trigain mlynedd wedi'r cyfan. :( Mae lluniau da yma o'r ddwy gnocell debyg yr olwg sydd wedi drysu'r twitchers, o bosib'.

PostioPostiwyd: Sad 18 Maw 2006 8:54 pm
gan Mali
Digon hawdd gweld pam fod 'na ddryswch wedi bod wrth adnabod yr aderyn prin. Mae'r ddau yn debyg iawn.

PostioPostiwyd: Llun 20 Maw 2006 12:10 pm
gan Dili Minllyn
Mae'n stori fach ddiddorol. Fel mae'r erthygl yn y Telegraph yn awgrymu, gwarchod corstiroedd Taleithaiu'r De yw'r peth pwysicaf, bydded cnocell pig ifor yno neu beidio.