Cynigion arbed dwfr yn yr ardd

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cynigion arbed dwfr yn yr ardd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 21 Maw 2006 11:59 am

Cynigion arbed dŵr yn yr ardd. Mae casglu dŵr y glaw mewn casgen yn syniad arbennig o dda: mae dau gant litr gyda fi wedi'u storio at yr haf.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Iau 23 Maw 2006 4:11 am

Syniad da !
Yn digwydd bod, welais i erthygl yn ein papur lleol heddiw , a hyn yn fy arwain at y dudalen yma ar World Water Day .
Ond tydan ni i gyd yn cymeryd dwr mor ganiataol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Iau 23 Maw 2006 10:37 am

Mali a ddywedodd:Ond tydan ni i gyd yn cymeryd dwr mor ganiataol?

Ydyn, wir, a ninnau'n dyfrio'n cyrsiau golff a glochi'n ceir tra bydd rhai nychu a threngu o ddiffyg dŵr.

Mae'r erthygl uchod o'r Telegraph, gyda llaw, wedi'i seilio ar ffeithlen fwy manwl gan y Gymdeithas Arddio Frenhinol.

Canllaw'r Gymdeithas Arddio Frenhinol a ddywedodd:Perfect lawns require great quantities of water in dry weather. This is a questionable use of a scarce resource...Sprinklers have a limited use in gardens...The aim of garden watering should be to apply water only at the stem bases beneath the foliage canopy, leaving the surrounding soil dry...As a general guide, up to 24 litres per square metre every 7-10 days will be sufficient to maintain plant growth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mici » Iau 23 Maw 2006 1:43 pm

Gwelais eitem ar 'Newsnight' neithiwr am broblemau diffyg dwr Israel, roeddent yn canolbwyntio rhai o adnoddau prin ar dyfu bananas un o'r cropiau sydd yn defnyddio'r mwyaf o ddwr ymysg pethau eraill, er bod rhai llwyddiannau.

Swydd Caint yn meddwl rhoi gwaharddiad ar chwistrelli dwr a eisiau pawb cael meter, syniad da yn fy marn i. Hefyd clywais son fod hanner, ia hanner cyflenwad dwr yr Alban yn cael ei wastraffu gan bibelli wedi byrstio/gollwng :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Norman » Iau 23 Maw 2006 2:55 pm

Sut mae arbed dwr yng Nghymru yn helpu pobl dramor ?
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 23 Maw 2006 2:57 pm

Hollol. Cofio i'r dyn dros y ffordd i ni unwaith (sais) yn rhoi row i ni am ddefnyddio'r h
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dili Minllyn » Iau 23 Maw 2006 7:38 pm

Norman a ddywedodd:Sut mae arbed dwr yng Nghymru yn helpu pobl dramor ?

Dwi'n 'mod i'n trio gwneud pwynt moesol, sef y dylai meddwl am gyn lleied o rai pethau sydd gan rai pobl eraill wneud i ni werthfawrogi'r hyn sydd gennym ni a'i drin yn ofalus rhag ofn ei golli. Wrth gwrs, dyw hynny ynddo'i hunan ddim yn helpu pobl eraill, ond mae'n gallu arwain at weithredu i sicrhau bod digon o ddwfr gan bawb yn y byd. Mewn ffordd debyg, mae'n gas gen i wastraff bwyd, ac er na alla bostio gweddillion rhyw buffet gwancus yn y gwaith i Affrica, mi alla i roi i elusen sy'n helpu pobl i'w bwydo eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Iau 23 Maw 2006 8:00 pm

Digon gwir Dili. Mae gan pawb ei ran i chwarae yn y byd , ac mae hi mor hawdd i ni anghofio am hyn a jyst cymeryd pob dim yn ganiataol . Mae rhai pobl fforma mor ffysi efo'i lawntydd , mae'r sprinclyrs awtomatig ymlaen ganddynt yng nghannol dydd ar ddiwrnod crasboeth o Awst. :o Mae pawb i fod i gymeryd eu twrn gan ddefnyddio system sydd yn ymwneud
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Iau 23 Maw 2006 8:19 pm

Mali a ddywedodd:Be sy'n fy ngwylltio i ydi gweld y boi drws nesaf yn llnau ei 'driveway' efo 'power wash' . Heb s
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Maw 23 Mai 2006 10:52 am

Yn ôl y sôn, yn Seland Newydd, mae'n hollol normal i bobl gasglu dŵr glaw o'r to mewn tanc mawr wrth y tŷ. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron