Tudalen 1 o 4

Ailgylchu Organic

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 3:57 pm
gan Mali
Wedi arfer ailgylchu cardbord a phapur ers rhai blynyddoedd, ond heb feddwl am ailgylchu organic. Mae 'na lot o bobl yn gwneud hyn ar raddfa fechan wrth gwrs , ac yn medru cynhyrchu compost da o sbarion y gegin yng ngwaelod eu gerddi.
Ond neithiwr , mi welais i hanes am ailgylchu organic yn Ladysmith ar Ynys Vancouver ....am syniad gwych! 8) Mae hyn yn golygu fod sbarion organic yr ardal i gyd yn cael ei gasglu yn wythnosol , a'i droi yn gompost o radd uchel mewn mater o fisoedd.
Llai o rwbel yn mynd i'r 'landfill' hefyd !

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:33 pm
gan Tegwared ap Seion
be ti'n feddwl wrth "organic"?

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:38 pm
gan Mihangel Macintosh
Yn y ty dwi'n byw ynddo ar hyn o bryd ma ganddon ni fin ar gyfer gwastraff organig. Ma'r boi arall sy'n byw yna yn tyfu llysiau yn yr ardd - bresych, marrows (Cymraeg?), brocoli, winwns, cenyn ayb ac yn defnyddio'r gwastraff organic fel cwrtaith ar gyfer ei tyfu nhw.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:52 pm
gan Dili Minllyn
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Marrows (Cymraeg?)

Pwmpen, ond dwi ddim yn gwybod sut mae gwahaniaethu rhwng pumkin a marrow yn Gymraeg.

Beth bynnag, mae dwy domen gompost gyda ni yng ngwaelod yr ardd ar gyfer sbarion llysiau a hen bapur a charbord brwnt. (Ond byddwch yn ofalus efo carbord pecynnau bwyd. Yn aml mae haen o blastig drosto. Mae'r card tu mewn yn pydru, ond mae'r plastig yn aros.)

Mae biniau yng Nghaerdydd ar gyfer cardbord a thorrion o'r ardd, ond am ryw reswm dyn nhw ddim yn casglu gwastraff o'r gegin, er bod y fath wastraff yn cael ei gasglu gan Gyngor Casnewydd ychydig filtiroedd i ffwrdd. :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 4:58 pm
gan Mali
Tegwared ap Seion a ddywedodd:be ti'n feddwl wrth "organic"?


Dwi'n meddwl mai'r diffiniad ydi rhywbeth oedd unwaith yn fyw....o sb

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 5:00 pm
gan Tegwared ap Seion
Diolch! Wedi ei herwgipio gan y bobol-buta'n-iach ma'r term organic am dail heb gemega llu?

Os felly, ma ganddom ni fin yn yr ardd - sydd yn llawn erbyn hyn wedi 14 mis o'i lenwi'n ddyfal! Fyddwn ni ddim yn rhoi papur na dim felly ynddo 'chwaith.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 5:04 pm
gan Mali
Tegwared ap Seion a ddywedodd: Fyddwn ni ddim yn rhoi papur na dim felly ynddo 'chwaith.


Hynny'n newydd i mi hefyd, gan fod 'na finiau mawr pwrpasol ar gael ar gyfer ailgylchu papur a chardbord.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 5:07 pm
gan Tegwared ap Seion
Hollol. Bagia te yn betha drwg hefyd, erbyn i'r compost fod yn barod da chi'n ei wasgaru ar y'ch riwbob a ballu a ma 'na d

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 5:07 pm
gan Dili Minllyn
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Os felly, ma ganddom ni fin yn yr ardd - sydd yn llawn erbyn hyn wedi 14 mis o'i lenwi'n ddyfal! Fyddwn ni ddim yn rhoi papur na dim felly ynddo 'chwaith.

Mae ychydig o bapur yn dda i'ch compost, yn enwedig os oes lot o lysiau a thorrion gwair ynddo fe: mae'n cadw'r cydbwysedd carbon-nitrogen.

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 5:10 pm
gan Tegwared ap Seion
Shafings coed fyddwn ni'n ei roi - leiar ohonno bod hyn a hyn. Ma' torion gwair yn hen sglyfath - fydd hwnnw ddim yn mynd ar gyfyl y compost!