Ailgylchu Organic

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydach chi'n ailgylchu pethau organic?

Daeth y pôl i ben ar Sul 09 Ebr 2006 3:57 pm

Ydw
8
53%
Weithiau
3
20%
Byth
4
27%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 15

Postiogan Rhys » Llun 03 Ebr 2006 8:46 am

Fatbob a ddywedodd: y peth pwysig yw troi'r gymysgedd a gadael i aer i fynd at yr holl gompost, oni bai hynny ma'r cwbl lot yn troi'n wlyb ac yn dechre gwynto.


Dyma be dwi'n wneud o'i le felly (neu ddim yn ei wneud). Slwdj drewllyd ydi hanner fy nhomen i erbyn hyn :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Garlleg » Maw 04 Ebr 2006 1:27 pm

Mae gen i domen gompost - un "dalek" yn yr ardd, a 2 "dalek" ar y rhandir efo new zealand box. Hefyd, dw i'n defnyddio liquid gold ond dw i ddim yn mynd mor bell na'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ond 'swn i'n licio cael compost loo. Dw i'n neud potiau allan o bapurau newydd. Dw i'n trio garddio'n organic, dw i'n aelod HDRA - dw i ddim yn defnyddio slug pellets neu glycophosphate
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan aberdarren » Maw 04 Ebr 2006 4:55 pm

Garlleg a ddywedodd:dw i ddim yn defnyddio slug pellets


Gan fy mhod yn bragu yn aml, rwy'n defnyddio gweddillion cwrw yn lle peledi.

Mae'r malwod duon yn hoff iawn o flas y burum ac maent yn boddi yn y cwrw.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan Mali » Maw 04 Ebr 2006 5:00 pm

Garlleg a ddywedodd:Mae gen i domen gompost - un "dalek" yn yr ardd, a 2 "dalek" ar y rhandir efo new zealand box. Hefyd, dw i'n defnyddio liquid gold ond dw i ddim yn mynd mor bell na'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ond 'swn i'n licio cael compost loo. Dw i'n neud potiau allan o bapurau newydd. Dw i'n trio garddio'n organic, dw i'n aelod HDRA - dw i ddim yn defnyddio slug pellets neu glycophosphate


Be 'di domen gompost 'dalek' Garlleg?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 04 Ebr 2006 5:20 pm

aberdarren a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Marrows (Cymraeg?)

Pwmpen, ond dwi ddim yn gwybod sut mae gwahaniaethu rhwng pumkin a marrow yn Gymraeg.



Cucurbita pepo

pwmpen == pumpkin

corbwmpen == courgette/marrow


Ydi cor-bwmpen ddim yn awgrymu pwmpen fach? Fel mae cor-gi yn golygu ci bach?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 04 Ebr 2006 5:23 pm

(Wnaeth teitl yr edefyn gonffiwsio fi braidd, o'n i'n meddwl taw jest compostio sbarion bwyd organic oeddat ti!)

Mae ganddon ni dair bin yn r'ardd. Ond wedi ni i agor gwaelod un yn ddiweddar sylwon ni fod dipyn o bridd da yna, ond fod y plisgynnau wy heb dad-gyfansoddi o gwbl. Felly, mae'r garllegau a nionod da ni di plannu efo llwyth o fflipin plisgyns drostyn nhw!

Ddyliwn i gael bin ar wahan iddyn nhw neu be sy'n bod dwch?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan aberdarren » Maw 04 Ebr 2006 5:41 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Ydi cor-bwmpen ddim yn awgrymu pwmpen fach?


Ydi.
aberdarren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Sul 14 Awst 2005 10:22 pm
Lleoliad: Yn y Bragdy

Postiogan Garlleg » Mer 05 Ebr 2006 2:06 pm

Mae'r bin compost yn edrych fel Dalek heb sink plunger ond dw i'n meddwl bod hwn: http://www.bbc.co.uk/cbbc/bluepeter/con ... make.shtml yn dipyn bach rhy bell.

Dw i'n defnyddio chwerw rhad (90c Tesco Value!) neu mynd ar helfa!
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mali » Mer 05 Ebr 2006 2:29 pm

Hei am syniad da. 8) Fedrai weld pam fasa'r 'dalek' yn apelio .Ac mae cael bin compost aghyffredin fel hwn yn rhoi mwy o hwyl i mewn i ailgylchu organic. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mali » Mer 05 Ebr 2006 2:38 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:(Wnaeth teitl yr edefyn gonffiwsio fi braidd, o'n i'n meddwl taw jest compostio sbarion bwyd organic oeddat ti!)


Sori Nwdls.....dyna'n union 'roeddwn i'n feddwl hefyd pan ddechreuais i edrych ar yr hanes ar y teledu y noson o'r blaen.
Gyda llaw, dyma linc sydd yn egluro'n fwy manwl be sy'n digwydd yn Ladysmith , a sut mae'r system ailgylchu organic. yn gweithio yno.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron