Wedi arfer ailgylchu cardbord a phapur ers rhai blynyddoedd, ond heb feddwl am ailgylchu organic. Mae 'na lot o bobl yn gwneud hyn ar raddfa fechan wrth gwrs , ac yn medru cynhyrchu compost da o sbarion y gegin yng ngwaelod eu gerddi.
Ond neithiwr , mi welais i hanes am ailgylchu organic yn Ladysmith ar Ynys Vancouver ....am syniad gwych! Mae hyn yn golygu fod sbarion organic yr ardal i gyd yn cael ei gasglu yn wythnosol , a'i droi yn gompost o radd uchel mewn mater o fisoedd.
Llai o rwbel yn mynd i'r 'landfill' hefyd !