Pobl anghyfrifol yn gwneud petha hurt

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pobl anghyfrifol yn gwneud petha hurt

Postiogan Dewi Lodge » Llun 03 Ebr 2006 12:22 pm

Ar ddydd Sul y Mamau mi es i a mam a nhad i Westy'r Goedlan yn Edern am ginio. Wrth gerdded at fy nghar yn y maes parcio es i heibio'r car ma oedd a'r injian yn dal i redag ag hyd y gwelwn i neb ar ei gyful o, felly dyma agosau i fusnesu ag er syndod gweld rhywun yn s
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan tafod_bach » Llun 03 Ebr 2006 1:33 pm

o ran gwybodaeth: mae cysgu mewn car yn uffernol o oer. rhaid rhedeg yr injan i gael y gwres i weithio. weithiau mae hi'n anochel bo chi'n cwmpo'i gysgu tra'n cael 'blast bach sydyn ar yr injan i dwymo lan'. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Mali » Llun 03 Ebr 2006 3:35 pm

Mae gweld pobl yn eistedd yn eu ceir a'r injan yn rhedeg yn reit gyffredin yn ystod misoedd y gaeaf. Yn cofio un o'n cymdogion yn arfer mynd a phaned o goffi efo hi ac eistedd yn car , a gadael i'r injan redeg am tua deng munud oleiaf cyn iddi fynd i'w gwaith.
Dynion hefyd yn eistedd yn eu tryciau tu allan i'r mall , a'r injan yn mynd ...tra bod y 'better half' yn siopa. :P
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Blewyn » Llun 03 Ebr 2006 4:05 pm

Dwi ddim cweit yn deall be sy'n anghyfrifol a hurt am hyn......wedi cysgu mewn car droeon, a mae rhaid rhedeg y motor yn y gaeaf achos mai'n rhy oer o lawer, hyd yn oed mewn sach gysgu.

Nodyn o bwyll - os ydy'r eira yn 'driftio' neu yn barod yn reit drwchus, byddwch yn ofalus iawn - os rwystrith o'r exhaust, mi ddoith y nwy gwenwynig i fyny drwy'r injan ac i fewn i'r car. Mi gollod dyn yn Aviemore ei wraig a dau blentyn yn y modd hyn ryw ddwy neu dair gaeaf yn ol.

:-(
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Dewi Lodge » Maw 04 Ebr 2006 12:04 pm

Just y fi dio 'lly! :ofn:

Blewyn a ddywedodd:Dwi ddim cweit yn deall be sy'n anghyfrifol a hurt am hyn......


Y pwynt oni'n ceisio'i wneud oedd y difrod di-angen sy'n cael ei wneud i'r amgylchedd oherwydd pobol yn gwneud pethau fel hyn. Iawn, dwi'n derbyn y pwynt os di rhywun yn gaeth yn yr eira yn rhywle ag yn gorfod cadw'n gynnes neu rewi i farwolaeth. Ond pnawn dydd Sul ym mis Mawrth ym Mhen Llyn oedd hyn mewn maes parcio gwesty - a dwi'm yn meddwl na just cael pum munud oedd o. Roedd o'n gorfedd ar ei hyd fel tasa fo'n ei wely ag yn cysgu'n sownd felly tybiwn i fod yr injian yn rhedeg am beth amser ganddo.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Postiogan khmer hun » Maw 04 Ebr 2006 12:14 pm

Fi'n cytuno da ti Dewi. Rhai o'r gwaetha' yw'r bobol sy'n stopo tu fas siop y pentre i nol papur neu gael clonc a'r 4x4 yn rhedeg tu fas. Ond sen i'm yn mentro gweud dim 'thyn nhw'n anffodus. Ma ffrindie'n neud e withe, a fi'n aros yn y car, ond na'i fod yn ewn a'i ddiffodd a chael bolocin wedyn :ofn: .

Peth arall anghyfrifol ma pobol digon cyfrifol yn'i neud yw gadael peirianne ar stand-by. Sens yn gweud bod chi'n wasto ynni.

Peth arall, cymryd bagie plastig yn ddiangen, neu beidio ail-iwsio hen rai.

Odi hwn yn gallu bod yn edefyn pet-hate?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Blewyn » Maw 04 Ebr 2006 4:17 pm

Wel diawl os oedd y dyn angen snooze mi oedd o angen snooze ia. Be mae o fod i wneud - lle fedr o fynd i gysgu os nad ydy o yn agos i'w gartref ?

Ynglyn a rhedeg yr injan tra'n picio i fewn i siop, dwi'n credu fod hyn yn lleihau niwed i'r amgylchfyd achos mae ceir yn defnyddio llawer mwy o danwydd i ddechrau'r injan nag i redeg ar 'idle' am ryw bum munud.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Mali » Maw 04 Ebr 2006 4:51 pm

Ond beth am rhywun yn rhedeg ei gar/ ei char am chwarter awr neu fwy jyst er mwyn cael mwynhau yr 'air conditioning' ar ddiwrnod crasboeth? Do dwi wedi gweld hyn hefyd !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Blewyn » Maw 04 Ebr 2006 4:53 pm

Dim syniad a deud y gwir - a dwi'n gweld hynna drwy'r amser..
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Mali » Maw 04 Ebr 2006 4:55 pm

Wyt dwi'n siwr! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron