'Nid wrth ei big mae mesur ceffylog'

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Nid wrth ei big mae mesur ceffylog'

Postiogan SerenSiwenna » Mer 19 Ebr 2006 11:38 am

Wedi clywed yr ymadroddiad yma, ond ddim cweit yn siwr pa fath o deryn yw'r ceffylog? Oes gan unrhywun syniad? Ai enw arall ar deryn y bwn yw e?

Ynol pob son, ystyr y ddywediad yw: am fod gan geffylog pig hir ond nad oes llawer o gig arno - ni ddylid ei barnu ar rhan ei big (gan na fydd yn rhoi llawer o gig i'r crochan)

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Senghennydd » Mer 19 Ebr 2006 12:03 pm

Dyma'r cyffylog. rho glic ar woodcock ar y tudalen i weld llun gwell yn dangos ei big :D

Dolen
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Postiogan sian » Mer 19 Ebr 2006 12:35 pm

"Nid wrth ei big mae prynu cyffylog" sy'n gyfarwydd i mi, ond yr un yw'r ystyr.

(Croeso n
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Dili Minllyn » Mer 19 Ebr 2006 12:45 pm

Mae'r ymadrodd yn cyfateb i'r un Saesneg am farnu llyfr ar sail ei glawr.

Gyda llaw, dwi'n meddwl 'bod hi bellach yn groes i'r gyfraith bwyta cyffylog, faint bynnag yw ei phig.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 19 Ebr 2006 12:50 pm

o ddolen Senghennydd:

Delwedd
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan SerenSiwenna » Mer 19 Ebr 2006 1:38 pm

Aw, tydi e'n ciwt? :D diolch i ti senghennydd.

"Nid wrth ei big mae prynu cyffylog" sy'n gyfarwydd i mi, ond yr un yw'r ystyr.


O, mae hi'n ddywediad cyfarwydd fellu - lle fues i yn ystod fym mhlentyndod tybed? wnes i erioed clywed ddywediadau mor difyr :?

(Croeso n
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan SerenSiwenna » Mer 19 Ebr 2006 2:00 pm

unrhywun yn gwybod beth yw gwreiddyn yr enw cyffylog? Oes yna caneuon am y cyffylog o gwbwl?

Rhannwch unrhyw ffeithiau difyr eraill sy' gennych am y cyffylog yn fan hyn....fydd hi fel cyffylog-appreciation-society yma :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan sian » Mer 19 Ebr 2006 2:07 pm

Reit - Geiriadur Prifysgol Cymru ar fy nglin:

Mae'n cael ei alw'n cyffylog a ceffylog. (Llydaweg Canol "queffelecq"; Llydaweg Diweddar "kevelec"). Bosib bod perthynas
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan SerenSiwenna » Mer 19 Ebr 2006 2:52 pm

Mae'n cael ei alw'n cyffylog a ceffylog. (Llydaweg Canol "queffelecq"; Llydaweg Diweddar "kevelec"). Bosib bod perthynas
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Nanog » Sul 11 Meh 2006 9:01 pm

Rwyf wedi clywed am y fersiwn ''Nid wrth ei byg mae adnabod cyffylog''.

Oes rhwyun wedi darllen 'Straeon y Pentan'? Stori yno gyda'r teitl ''Nid werth ei big mae adnabod cyffylog''. Stori ardderchog dwi'n meddwl am fachgen ifanc yng nghwmi dyn oedd yn bostio am ei nerth a'i galetwch. Ryw ffordd, mae'r dyn yn dechrau gwneud sbort am ben rhyw ddyn tawel gyda thrwyn hir miniog sy'n eistedd heb fod yn bell wrthynt. Ta beth, i dorri'r stori'n fyr, mae'r dyn gyda'r trwyn hirfain yn rhoi uffern o grasfa i'r llall ac fe ddysgwn taw paffiwr enwog yw......Welsh Jim neu ryw gymeriad ag enw tebyg. Wrth-gwrs, trwyn fflat ac ar dro sydd gan baffwyr gan amlaf ond nid hwn! Mae'r bachgen ifanc yn dysgu ei wers.......
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron