gan Nanog » Sul 11 Meh 2006 9:01 pm
Rwyf wedi clywed am y fersiwn ''Nid wrth ei byg mae adnabod cyffylog''.
Oes rhwyun wedi darllen 'Straeon y Pentan'? Stori yno gyda'r teitl ''Nid werth ei big mae adnabod cyffylog''. Stori ardderchog dwi'n meddwl am fachgen ifanc yng nghwmi dyn oedd yn bostio am ei nerth a'i galetwch. Ryw ffordd, mae'r dyn yn dechrau gwneud sbort am ben rhyw ddyn tawel gyda thrwyn hir miniog sy'n eistedd heb fod yn bell wrthynt. Ta beth, i dorri'r stori'n fyr, mae'r dyn gyda'r trwyn hirfain yn rhoi uffern o grasfa i'r llall ac fe ddysgwn taw paffiwr enwog yw......Welsh Jim neu ryw gymeriad ag enw tebyg. Wrth-gwrs, trwyn fflat ac ar dro sydd gan baffwyr gan amlaf ond nid hwn! Mae'r bachgen ifanc yn dysgu ei wers.......