Tudalen 1 o 1

Argae ar foryd y Hafren

PostioPostiwyd: Mer 26 Ebr 2006 2:39 pm
gan dave drych
Newydd darllen stori ar wefan y BBC am argae (barrage) rhwng Weston Super Mare a Chaerdydd.

Fydd hwn yn cynhyrchu, yn ol y stori, gymaint o drydan a dwy gorsaf niwclear ac yn gwneud hynny am 150 mlynedd. Bydd y trydan yn llygru dim wrth cynhyrchu, sydd yn hwb i geisio lleihau ein allbwn o garbon a nwyon eraill. Yr unig broblem ellai feddwl am yw bod yr argae yn rhwystr i lawer o anifeiliaid sy'n mudo rhwng y mor a'r afon a'r broblem ecolegol gall hyn ei greu.

PostioPostiwyd: Iau 26 Hyd 2006 7:46 pm
gan eifs
Mae'r syniad yn un penigamp, ac yn ol pob son dim ond 8 safle sydd yn addas ym Mhrydain ar gyfer creu tidal power or fath yma yn effeithlon. Ar yr un llaw mae trydan trwy'r broses hyn am fod yn lan a rhad iw chreu, ond ar y llaw arall, fydd na bryder ynglyn a faint o niwed fydd hyn yn ei wneud i fyd natur.

Ond ar y cyfan fyswn i yn dweud fy mod i yn cefnogi y fath blaniau oherwydd ar y cyfradd mae CO2 a ballu yn cael ei rhyddhau, fydd na ddim natur ar ol.

PostioPostiwyd: Gwe 27 Hyd 2006 11:50 am
gan dave drych
Ew, ateb sydyn uffernol - m'ond 6 mis ers y stori! :winc:

Dwi'n meddwl bod rhaid ini neud ddefnydd o'r llanw yn y Hafren, gan mai hwn di'r tidal range ail fwyaf yn y Byd (Yr un mwyaf yng Nghanadia). Siwr bod allwn ni neud ddefnydd o'r egni yn y dwr heb amharu ar y natur yn ormodol - ond dwi'm yn arbennigo mewn dyluinio fath bethau felly dwnim! Ffynhonellau fel yr hwn dylwn ni anelu atynt yn y dyfodol, yn hytrach na egni niwclear neu pwerdai llosgi glo, i neud yr ynys yn fwy hunan-gynhaliol. Fydd yne manteision economaidd a strategol yn dod o ganlyniad i'r fath bethau dwi'n meddwl.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 12:08 pm
gan nicdafis
[Wedi symud y trafodaeth am beiriannau amsugno CO2.]

Re: Argae ar foryd y Hafren

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 12:41 pm
gan Norman
Hwn yn y newyddion eto - wele BBC

Delwedd

Dwi'n dallt sut mae'n gweithio, ond pam bod angen y 'barrage' [barrage yn Gymraeg?] - pam na ellir cael y tyrbain ar blinth ar waelod yr hafren, heb unrhywbeth ar wyneb y dwr - unrhywun yn gwybod ?

Re: Argae ar foryd y Hafren

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 12:49 pm
gan Mwnci Banana Brown
Wel achos bydd egni llif yr afon yn llifo dros hyd yr afon cyfan wedyn yn lle cal i fforso trw'r turbine. Bydd rhoi turbine ar waelod yr afon heb dim argae yn creu dim trydan o werth.