gan Prysor » Maw 01 Gor 2008 12:12 pm
mae Briallu gwyllt yn tyfu yn ein gardd bob gwanwyn.
Ar y funud mae gennym fefus, mafon, mwyar duon, cyrins duon, tomatos, cherry tomatos, ciwcymbyrs a letys. Da ni'n tyfu nhw bob blwyddyn.
mae genan ni lot o lyffint - wel, brogaod ydi'r term iawn, mae'n debyg. Y rhai hynny sydd jesd yn gorwadd dan gerrig a ballu. Mae gennym lŷg fach hefyd, yn ogystal â titw tomosus, jibincs, titws mawr, sawl mwyalchen a myrdd o adar tô.
O... a colomenod Med Moi, tŷ pen.