Tudalen 1 o 6

Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 7:57 pm
gan Dili Minllyn
Newydd blannu ffa dringo ac india corn, wedi'u hegino ar silff y ffenest' tu mewn yn gyntaf. Dwi wedi'u rhoi nhw yn y pridd o dan hen boteli plastig 2 litr i'w cadw nhw'n gynnes a chadw'r malwod draw am y tro.

Beth mae pawb arall yn ei dyfu?

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 8:50 pm
gan Hogyn o Rachub
Ar y funud mae'n gardd ni'n cynnwys cenhinau pedr, potplant sydd wedi marw a pethau annifyr a distyrbing yn tyfu allan o hen din o fetys (

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 8:59 pm
gan Dewi Bins
Dili Minllyn a ddywedodd:Beth mae pawb arall yn ei dyfu?


Gwair a Chwyn heb drio

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 9:06 pm
gan 7ennyn
Chwyn bwytadwy. Lot fawr o ferwr chwerw a llysiau'r oen - blasus iawn mewn salad. A fedrwch chi ddim gwneud Mojito heb fintys gwyllt. Y peth gorau am rhain ydi eu bod yn ymddangos pob blwyddyn trwy'r craciau yn y concrit heb orfod gwneud unrhyw waith o gwbl.

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 9:29 pm
gan aberdarren
Dili Minllyn a ddywedodd:Newydd blannu ffa dringo ac india corn, wedi'u hegino ar silff y ffenest' tu mewn yn gyntaf. Dwi wedi'u rhoi nhw yn y pridd o dan hen boteli plastig 2 litr i'w cadw nhw'n gynnes a chadw'r malwod draw am y tro.

Beth mae pawb arall yn ei dyfu?


ffa llydain/dringo/Ffrengig
betys cochion
moron
tomato
puprau
ciwcymber/ghercod
pwmpen/corbwmpen
corwinwyn
winwns
swedsen
tatws

Rwy'n canolbwyntio ar y ffa dringo (wedi dechrau tua 250 ohonynt eleni) a'r ffa Ffrengig.

Delwedd

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 11:38 pm
gan Huw Psych
Nol adra ma Dad wrhti'n brysur yn tyfu tatws, moron, pys, ffa, riwbob, mefus, 'fala, tomatos, letys, shlots (spring onions) a brocoli! Digon o fwyd ar gyfer pan y bydda i adra!!

Dwi'n siwr i Tegwared a minnau ddod ar draws cannabis yn gardd Taid a Nain rhyw dro...synnwn i ddim nad ydi o dal yno os na fuodd Taid wrthi'n smocio eto!!

PostioPostiwyd: Sul 07 Mai 2006 11:54 pm
gan Mali
Fedrwn ni ddim tyfu dim yma ar wah

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 9:00 am
gan Rhodri Nwdls
Riwbob, nionod, garlleg, perlysiau, mafon, mefus, fala, gellyg, grawnwin (ond sneb wedi edrych ar eu holau a'u tocio'n ddigon da i dyfu nhw'n fawr). Gobeithio ehangu ar hyn y dyfodol gan dyfu courgettes a letys.

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 9:09 am
gan Jeni Wine
basil (ar y sil ffenest)
chili (ar y sil ffenest)
ffa dringo
tomatos mewn potia
coriander
salad cymysg
cennin syfi (chives i chi a fi)
rocket
sbigoglys

Newydd eu plannu nhw ydw i, a dwi rioed di tyfu llysia o'r blaen. Sgin unrhyw un dips? Ydi'n well rhoi dwr cynnas iddyn nhw pan da chi'n eu dyfrio nhw, er enghraifft?

Dwi ffansi tyfu brocoli porffor a betys a ballu hefyd. Ydyn nhw'n betha hawdd i'w tyfu?

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 9:12 am
gan Rhys
Tomatos
India Corn

gobeithiau hau spigoglys a chael planhigyn courgette neu ddau