Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 29 Ebr 2008 10:00 pm

Eleni, gyda chael peth trefn ar yr ardd (ond mae gwaith i'w wneud o hyd), mae gyda ni goeden fale mewn potyn mawr sydd wedi bod yn blodeuo'n neis ers rhai wythnose, dau lwyn eirin mair a digonedd o berlysiau, fel saitsh, rhosmari, thyme, a mintys sydd wedi dod nol fel Bruce Willis ar drywydd dialedd...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

Postiogan Prysor » Maw 01 Gor 2008 12:12 pm

mae Briallu gwyllt yn tyfu yn ein gardd bob gwanwyn.

Ar y funud mae gennym fefus, mafon, mwyar duon, cyrins duon, tomatos, cherry tomatos, ciwcymbyrs a letys. Da ni'n tyfu nhw bob blwyddyn.

mae genan ni lot o lyffint - wel, brogaod ydi'r term iawn, mae'n debyg. Y rhai hynny sydd jesd yn gorwadd dan gerrig a ballu. Mae gennym lŷg fach hefyd, yn ogystal â titw tomosus, jibincs, titws mawr, sawl mwyalchen a myrdd o adar tô.

O... a colomenod Med Moi, tŷ pen.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

Postiogan Rhys » Maw 13 Gor 2010 9:00 pm

Hyd yma dw iw edi bwyta'r canlynol o'r ardd:
Tatws (math charolate - ddim yn sbeshial)
Mange tout
Ffa dringo
Radish
letus
roced

dal i ddisgwyl am:
gellyg
betys
courgette
tomatos
purple sprouting brocli
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 2 gwestai

cron