Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 11:18 am
gan Rhys
Dyma luniau o gnwd 2006, bydd mwy o luniau yno ymhen rhai wythnosau (gobeithio)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 12:24 pm
gan S.W.
Cwbwl sy'n tyfu yn ardd newydd fi ar hyn o bryd ydy ychydig iawn o wair, lot o dant y llew, a 'Sweet Pea' neu rhywbeth, o a honeysuckle a coeden rhosyn. A lot fawr o gerrig. Oedd y ty'n wag am dipyn cyn i ni ei brynnu felly mae dipyn o waith iw wneud arno fo.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 1:02 pm
gan Rhodri Nwdls
Wedi cael tua dau bwys o fafon yn barod.
Mefus ddim wedi dod yn sbesh.
Letys a Rocet wedi dod yn grêt.
Nionod a garlleg wedi methu'n llwyr.
Riwbob yn tyfu'n dda wedi patsh gwael i gychwyn.
Tomatos yn dechra dod yn dda!
Gesh i un geiriosan o'r goedan, mi aeth y 5 posib arall i'r adar.
Courgettes ar y ffor fyd gobeithio wedi i ni symud o i'r pridd.
Dwn im sut daw'r grêps! Dwi wedi torri;r rhai gwan i gyd ffwr a phrwnio'r winwydd felly...

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 1:41 pm
gan Fatbob
Wedi bod yn bwyta tatws newydd o'r ardd ers rhyw bythefnos.
Wedi cael dau bryd o gini bêns.
Cnwd gwych o bys, mangetout a ffa hyd yn hyn.
Mafon, mefus a riwbob yn niferus.
Winwns a siwbwns yn dod yn ei blaen.
Wedi cael un pryd o foron cynar.
Ar y trydydd lot o letus, yn barod i hau'r pedwerydd lot.

Gweddill o bethe yn yr ardd:
Panas
Celery
Celeriac
Inja Corn
Broccoli
Purple Spouting Broccoli
Cennin
Sweds
Tomatos

Yn y berllan
Plwms x 2
Greengage
Afalau (bron i 20 coeden wahanol)
Gellig (4)
Damson
Apricot

Hefyd
Cwrens Du
Cwsberris
Cwrens Coch
Cape Goosberry's

a wsnos diwetha fe brynes i Fafon Oren Nepalese a dau fath o Fwyar, un o Siapan ag un o Tsieina.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 1:43 pm
gan Dili Minllyn
Iesgob, Fatbob, faint o ardd sydd gyda ti?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 2:20 pm
gan Fatbob
Dili Minllyn a ddywedodd:Iesgob, Fatbob, faint o ardd sydd gyda ti?


Acer.

Ond dwi ond yn fy ail flwyddyn o arddio, ma'r plot llysie tua maint alotment arferol(cwarter beth fydd e). Ma'r berllan bron yn hanner acer (blanes i hi mewn wsnos nôl ym Mis Chwefror). Ma ffram polytunnel da fi lan, yn bwriadu rhoi'r plastig arno rhywbryd haf yma, a ma seiliau i sied newydd wedi i marcio mas. Ma cwarter acer o dir di gadw er mwyn tyfu gwinllan fach hefyd, ond ma isie amser arna i cyn y bydda i'n gallu gwireddu hyn.

Anghofies i cwpwl o lysie fyd...

Asparagus a Globe Artichoke

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 3:26 pm
gan Iesu Nicky Grist
sian a ddywedodd:Mae lot o bobl ffordd hyn yn prynu poteli pop 2 litr plastig, yn yfed y pop, tynnu'r label, hanner llenwi'r poteli â d?r a'u rhoi i orwedd ar eu hochrau yn yr ardd. Mae'n debyg bod y cathod yn gweld eu hadlewyrchiad yn y d?r ac yn dychryn a rhedeg i ffwrdd.
(Dwi ddim yn gwybod ai dim ond i gathod hyll y mae hyn yn gweithio) :lol:


I atal eich hun rhag llenwi eich gardd gyda photeli plastig llawn dwr defnyddiwch grynno ddisgiau! Ma Delwyn Sion werth rhywbeth yn diwedd :!:

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 6:07 pm
gan Dili Minllyn
Newydd fwyta india-corn cynta'r tymor o'r ardd. Pleser pur. 8)

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 6:35 pm
gan Gloria'Mwn'Di
Mae gynnon ni ormod o giwcymbers - un ciwcymber newydd bob yn eilddydd, ar gyfartaledd, a llawer mwy yn datblygu.

Beth allwn ni wneud â nhw, heblaw salad, gazpacho, Pimms, neu eu cynnig i'n cymdogion? (Atebion gweddus, os gwelwch yn dda :ofn: ) Unrhyw ryseitiau diddorol?

Hefyd, beth yw'r ffordd orau o gadw mintys - ei sychu neu ei rewi?

A yw tomatos unrhyw un wedi aeddfedu eto? Gwyrdd yw'n rhai ni, hyd yn hyn. O'n i'n hwyr yn eu plannu, oherwydd y gwanwyn oer eleni.

PostioPostiwyd: Llun 21 Awst 2006 9:54 am
gan Dili Minllyn
Gloria'Mwn'Di a ddywedodd:Unrhyw ryseitiau diddorol?

Beth am gawl? Mae gyda fi rysáit galla i ei llungopïo a'i phostio os gallwch chi roi cyfeiriad post i mi trwy neges breifat.
Gloria'Mwn'Di a ddywedodd:Hefyd, beth yw'r ffordd orau o gadw mintys - ei sychu neu ei rewi?

Ei sychu, dwi'n meddwl, neu ei adael i dyfu yn yr ardd a phigo rhywfaint yn ôl yr angen.

A dyma 'nghwestiwn i: oes rhywun yn gwybod ydy hi'n iawn tyfu india corn ddwy flynedd ar y tro yn yr un darn o dir, neu oes perygl afiechyd :?: :?