Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 3:26 pm
gan Iesu Nicky Grist
sian a ddywedodd:Mae lot o bobl ffordd hyn yn prynu poteli pop 2 litr plastig, yn yfed y pop, tynnu'r label, hanner llenwi'r poteli â d?r a'u rhoi i orwedd ar eu hochrau yn yr ardd. Mae'n debyg bod y cathod yn gweld eu hadlewyrchiad yn y d?r ac yn dychryn a rhedeg i ffwrdd.
(Dwi ddim yn gwybod ai dim ond i gathod hyll y mae hyn yn gweithio) :lol:


I atal eich hun rhag llenwi eich gardd gyda photeli plastig llawn dwr defnyddiwch grynno ddisgiau! Ma Delwyn Sion werth rhywbeth yn diwedd :!:

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 6:07 pm
gan Dili Minllyn
Newydd fwyta india-corn cynta'r tymor o'r ardd. Pleser pur. 8)

PostioPostiwyd: Llun 31 Gor 2006 6:35 pm
gan Gloria'Mwn'Di
Mae gynnon ni ormod o giwcymbers - un ciwcymber newydd bob yn eilddydd, ar gyfartaledd, a llawer mwy yn datblygu.

Beth allwn ni wneud â nhw, heblaw salad, gazpacho, Pimms, neu eu cynnig i'n cymdogion? (Atebion gweddus, os gwelwch yn dda :ofn: ) Unrhyw ryseitiau diddorol?

Hefyd, beth yw'r ffordd orau o gadw mintys - ei sychu neu ei rewi?

A yw tomatos unrhyw un wedi aeddfedu eto? Gwyrdd yw'n rhai ni, hyd yn hyn. O'n i'n hwyr yn eu plannu, oherwydd y gwanwyn oer eleni.

PostioPostiwyd: Llun 21 Awst 2006 9:54 am
gan Dili Minllyn
Gloria'Mwn'Di a ddywedodd:Unrhyw ryseitiau diddorol?

Beth am gawl? Mae gyda fi rysáit galla i ei llungopïo a'i phostio os gallwch chi roi cyfeiriad post i mi trwy neges breifat.
Gloria'Mwn'Di a ddywedodd:Hefyd, beth yw'r ffordd orau o gadw mintys - ei sychu neu ei rewi?

Ei sychu, dwi'n meddwl, neu ei adael i dyfu yn yr ardd a phigo rhywfaint yn ôl yr angen.

A dyma 'nghwestiwn i: oes rhywun yn gwybod ydy hi'n iawn tyfu india corn ddwy flynedd ar y tro yn yr un darn o dir, neu oes perygl afiechyd :?: :?

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 10:45 am
gan Dili Minllyn
Eleni, bydda i'n tyfu india corn (fel y llynedd); tomatos (mentr newydd i fi); ac ychyig o berlysiau mewn potiau (mintys a chennin syfi'n bennaf).

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 12:01 pm
gan bartiddu
Wedi rhoi hadau letis lawr ers pythefnos, rhaid Eidalaidd i nhw, dim byd yn gwthio trwy'r pridd eto, bydd rhaid prynu pecyn newydd fi'n credu! :)

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 12:51 pm
gan Dili Minllyn
bartiddu a ddywedodd:Wedi rhoi hadau letis lawr ers pythefnos, rhaid Eidalaidd i nhw, dim byd yn gwthio trwy'r pridd eto, bydd rhaid prynu pecyn newydd fi'n credu! :)

Bosib' bod y malwod wedi eu cael nhw yn y nos.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 3:36 pm
gan S.W.
Dim byd o gwbl ar y funud. Dwi wrthi'n mynd yn groes i fy nghredoau amgylcheddol am wan ac yn lladd y chwyn yn barod i droi'r pridd a hadu gwair newydd da i lawr.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ebr 2007 4:54 pm
gan Rhodri Nwdls
Iei!

Wedi cael dail hyfryd o'r letys dros y penwythnos ar ôl yr holl dywydd braf.
Hefyd wedi gneud dau bwdin efo'r riwbob.

Mae'r egin y tatws (tri math gwahanol) yn dechra dod drwodd (dwi di plannu nhw mewn bagia er mwyn arbed lle). Rhywun yn gwybod pryd fyddai'n gwybod pryd i'w codi?

Mae'r nionod coch yn dod yn dda ac mae'r garlleg a fethodd llynedd wedi dod trwodd 'leni!

Mae'r tomatos mewn potia ac yn dechra dod.

Yn y tŷ mae ganddon ni basil, coriander, rocket, courgettes, a chillis yn egino. Edrych mlaen i'w plannu....a'u byta i gyd!

PostioPostiwyd: Iau 03 Mai 2007 8:39 am
gan Dili Minllyn
Wedi plannu mintys mewn pot mawr hefyd - mae eisiau cyfyngu ei wreiddiau neu bydd e'n lledu trwy'r ardd.

Gyda llaw, i'r rhai sydd yn y brifddinas, mae planhigion llysiau a pherlysiau da i'w cael yn rhad iawn o erddi Hafal (yr elusen i bobl ag afiechyd meddwl difrifol) ar bwys maes parcio Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Dyna lle ces i 'nhomatos a 'mhlanhigyn tsili.