Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Maw 03 Gor 2007 12:38 pm
gan bartiddu
Ma'r hen Gactws prynais mewn ffair sborion 23 mlynedd nol yn blodeuo'n ffyddlon bob blwyddyn! Coch oedd hi llynedd fi'n credu, ond gwyn eleni! 8)
Delwedd
Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 03 Gor 2007 12:42 pm
gan Sili
Dani newydd ffeindio fod na wymon yn tyfu yn ein gardd ni :? O gysidro fod y mor/treath agosaf rhyw filltir neu ddwy i ffwrdd, sut fod y gwymon wedi medru cymryd gwraidd (ne be bynnag ma gwymon yn neud)?

PostioPostiwyd: Llun 09 Gor 2007 12:57 pm
gan Rhodri Nwdls
Sili a ddywedodd:Dani newydd ffeindio fod na wymon yn tyfu yn ein gardd ni :? O gysidro fod y mor/treath agosaf rhyw filltir neu ddwy i ffwrdd, sut fod y gwymon wedi medru cymryd gwraidd (ne be bynnag ma gwymon yn neud)?

Ella oedd rhywun wedi ei ddefnyddio i gwrteithio'r ardd rhyw dro? Dwn im fel arall...gwylanod direidus?

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 3:49 am
gan Mali
Wedi cael rhain o'r ardd ddoe ar gyfer salad:
Delwedd
Blasus iawn ..... :)

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 3:44 pm
gan S.W.
Mae ne laswellt yn tyfu yn ein ardd ni o'r diwedd. Mi naethon ni droi'r pridd a gasgaru'r hadau ar ddiwrnod olaf y cyfnod o dywydd poeth poeth poeth oedden ni'n ei gael. Roedd pawb yn dweud ein bod wedi ei adael yn rhy hwyr a bydd angen rhoi lot o ddwr o'r hosepipe arno. Wel, mae'r holl law den ni wedi ei gael ers hynny yn golygu bod y glaswellt bron i gyd wedi tyfu i dipyn go lew o faint - bydd angen ei trimio yn fuan!

Felly dwin un berson sy'n falch o'r holl law ma!

PostioPostiwyd: Iau 02 Awst 2007 11:00 am
gan Dili Minllyn
Gyda gwanwyn anaturiol o boeth a haf rhy wlyb, dyw'r india corn ddim wedi gwneud yn dda o gwbl. Erbyn mis Awst y llynedd roedd e tua chwe throedfedd o uchder, a'n gardd yn ymdebygu i beithiau Alabama. Rhyw un neu ddau droedfedd o dyfiant sydd gyda fi eleni, a rhai planhigion yn dal yn eginion bach, pitw,

PostioPostiwyd: Iau 02 Awst 2007 12:43 pm
gan Rhodri Nwdls
Mi aeth y courgettes yn wallgo - dwi'n methu byta nhw'n ddigon cyflym. Dyfodd un i faint maro tra oeddan ni ffwrdd ar ein gwylia.

Doedd y tatws ddim yn wych, ond roedd digon yno i wneud sawl pryd blasus a ma na rai dal ar ôl.

Gafodd y nionod coch eu mosod gan slygs felly tila oeddan nhw ar y cyfan.

Newydd dorri'r chilli cyntaf oddi ar y planhigion. Debyg fydd ganddon ni ddegau ar ddegau erbyn ar ôl sdeddfod, felly os oes rhywun yn Aber isio chillis - jest rhowch NB i fi!

Wedi planu sgwash ar gyfer yr hydref a ma'n tyfu'n dda. Edrych mlaen i weld hwnnw'n tyfu.

Ma'r riwbob wedi bod yn tydu a thyfu. Dau blanhigyn yn hen ddigon i ddau berson drwy'r ha. Ond yr adar gafodd y mafon i gyd tra ffwrdd ar wylia. Cnafon mafon :(

Am blannu rhagor o letys rwan at ddiwedd yr haf. Iym.

A ma'r fala a gellyg yn drwch ar y coed...fydd raid i fi agor siop ar ffordd llanbadarn cyn bo hir...

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 7:44 pm
gan Dili Minllyn
Wedi mentro i'r ardd dros y Sul, er gwaetha'r tywydd pislyd, i balu llwyth o gompost o'r domen i mewn i bâm ar gyfer tyfu tatws a chennin yn y gwanwyn. Braf gweld ei bod yn bosibl gwneud rhywbeth defnyddiol o'r holl hen lysiau, papur a dillad sydd wedi mynd i mewn i'r bin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. :D

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 9:31 pm
gan Iestyn Davies

Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?

PostioPostiwyd: Maw 29 Ebr 2008 9:23 pm
gan Dili Minllyn
Egin deiliog cyntaf y tatws blannais Ddydd Gwener y Groglith yn ymddangos tua pythefnos yn ôl. Edrych ymlaen at datws newydd yn syth o’r ardd i’r sosban. :D