Mi aeth y courgettes yn wallgo - dwi'n methu byta nhw'n ddigon cyflym. Dyfodd un i faint maro tra oeddan ni ffwrdd ar ein gwylia.
Doedd y tatws ddim yn wych, ond roedd digon yno i wneud sawl pryd blasus a ma na rai dal ar ôl.
Gafodd y nionod coch eu mosod gan slygs felly tila oeddan nhw ar y cyfan.
Newydd dorri'r chilli cyntaf oddi ar y planhigion. Debyg fydd ganddon ni ddegau ar ddegau erbyn ar ôl sdeddfod, felly os oes rhywun yn Aber isio chillis - jest rhowch NB i fi!
Wedi planu sgwash ar gyfer yr hydref a ma'n tyfu'n dda. Edrych mlaen i weld hwnnw'n tyfu.
Ma'r riwbob wedi bod yn tydu a thyfu. Dau blanhigyn yn hen ddigon i ddau berson drwy'r ha. Ond yr adar gafodd y mafon i gyd tra ffwrdd ar wylia. Cnafon mafon
Am blannu rhagor o letys rwan at ddiwedd yr haf. Iym.
A ma'r fala a gellyg yn drwch ar y coed...fydd raid i fi agor siop ar ffordd llanbadarn cyn bo hir...