Tudalen 6 o 6
Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?
Postiwyd:
Maw 29 Ebr 2008 10:00 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Eleni, gyda chael peth trefn ar yr ardd (ond mae gwaith i'w wneud o hyd), mae gyda ni goeden fale mewn potyn mawr sydd wedi bod yn blodeuo'n neis ers rhai wythnose, dau lwyn eirin mair a digonedd o berlysiau, fel saitsh, rhosmari, thyme, a mintys sydd wedi dod nol fel Bruce Willis ar drywydd dialedd...
Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?
Postiwyd:
Maw 01 Gor 2008 12:12 pm
gan Prysor
mae Briallu gwyllt yn tyfu yn ein gardd bob gwanwyn.
Ar y funud mae gennym fefus, mafon, mwyar duon, cyrins duon, tomatos, cherry tomatos, ciwcymbyrs a letys. Da ni'n tyfu nhw bob blwyddyn.
mae genan ni lot o lyffint - wel, brogaod ydi'r term iawn, mae'n debyg. Y rhai hynny sydd jesd yn gorwadd dan gerrig a ballu. Mae gennym lŷg fach hefyd, yn ogystal â titw tomosus, jibincs, titws mawr, sawl mwyalchen a myrdd o adar tô.
O... a colomenod Med Moi, tŷ pen.
Re: Beth sy'n tyfu yn eich gardd?
Postiwyd:
Maw 13 Gor 2010 9:00 pm
gan Rhys
Hyd yma dw iw edi bwyta'r canlynol o'r ardd:
Tatws (math charolate - ddim yn sbeshial)
Mange tout
Ffa dringo
Radish
letus
roced
dal i ddisgwyl am:
gellyg
betys
courgette
tomatos
purple sprouting brocli