Yn ol erthygl oedd yn y papur wythnos dwetha, mae ffigyrau yn profi fod ffermwyr bach yn marw mas yma.
Iawn, dim byd newydd - ond sceri.
Roedd teulu o Lundain wedi prynnu fferm 40 hectar er mwyn defnyddio 1 hectar i gadw ceffyl!
Mae'n dweud nol yn 1939 fod 500,000 o ffermydd ym Mhrydain yn rhai bach dan 40 hectar, ac yn cyflogi 15% o'r boblogaeth.
Bellach yn y gwledydd datblygiaedig mae'r fefrmydd yma m'ond gyda 8% o'r gweithlu.
Mae Blair yn dadlau ermwyn i'n ffermydd fod yn gystadleuol fod yn rhaid iddyn nhw dyfu.
Dyw'r boi jyst ddim yn gweld y darlun cyflawn.
Ein ffermydd bach yw asgwrn cefn ein hiaith a'n diwylliant yn aml yma yng Nghymru. Mae'n nhw'n cynnal ffordd unigryw ac arbennig o fyw, ac yn eu tro yn cynnal llu o gymunedau bychan. Dim ond a ffermydd mawr y mai archfarchnadoedd yn fodlon gwneud busnes a nhw - sy'n gwthio'n ffermydd llai allan o waith.
Mae'rerthygl yn dweud ymhellach fod e wedi ei brofi fod ffermydd llai yn fwy cynhyrchiol yr hectar, ac yn gwneud llai o niwed i'r amgylchedd yr hectar, er eu bont yn derbyn lot yn llai o grantiau.
Mae'n dwedud ym Mhrydain fod llai na 1% o'r boblogaeth yn berchen ar 70% o'r tir! Blydi hel!! Dyw hyn ddim mor wir am Gymru diolch byth.
Ond mae'n rhaid i ni gefnogi ein ffermwyr lleol - prynnu cynnyrch lleol, cefnogi eu cwmniau cyd-weithredol a bod yn barod i dalu y ceiniogau ychwanegol am eu cynnyrch rhagorol.
Brwydyr yn erbyn Globaleiddio!