Garnet Bowen a ddywedodd:Pam fod angen lefel o hunan-gynhaliaeth?
Pen draw globaleiddio, sef y gwrthwyneb i hunan-gynhaliaeth leol, ydi lleoli llafur yn y rhannau hynny o'r byd sy'n cynhyrchu'r elw mwyaf i gwmniau. Yn achos cwmniau bychain, dydi hi ddim ella wastad yn ymarferol i drosglwyddo swyddi dramor. Ond canlyniad arall globaleiddio ydi i lawer o'r cwmniau bychain yma - aneffeithlon yn ol model economaidd Blair a'i debyg - gael eu llyncu gan y corfforaethau mawr, a thuedd y rhain fwyfwy ydi trosglwyddo swyddi i ardaloedd o'r byd lle y gellir ecsbloet tlodi a diffyg hawliau'r gweithlu i'r eithaf. Ac wrth gwrs o wneud hyn, bydd llawer o rannau o'r 'Gorllewin' sydd yn draddodiadol wedi dibynnu ar 'waith go iawn' yn hytrach na swyddi biwrocrataidd, yn dioddef, ac yn gorfod hepgor hawliau sylfaenol a derbyn llai o arian er mwyn cystadlu.
Dyma pam mae hunan-gynhaliaeth economaidd leol yn batrwm y mae'n hanfodol i ni ei fabwysiadu, yn arbennig felly mewn gwledydd efo traddodiad o gynhyrchu a diwydiant fel Cymru. Dyma fodd effeithiol iawn o sicrhau swyddi, a chadw arian o fewn yr economi leol. Hyd yn oed cyn y duedd i lobaleiddio, mae craidd y wladwriaeth Brydeinig erioed wedi magu braster ar gorn yr ardaloedd 'ymylol', waeth pa mor uchel y crefa Llundain ei bod yn sybsideiddio'r gweddill ohonom. Bydd yn llawer gwaeth arnom pe gwthir i'r pen athroniaeth globaleiddio a thrwy hynny, canoli grym gwleidyddol, milwrol ac economaidd yn nwylo'r corfforaethau rhyngwladol.
Crwydro chydig o bwnc ffarmio...! Ond ella ddim