Oes rhywun arall yma'n cyumryd rhan yn yr arbrawf
yma? O be fedrai weld, mae Prifysgol Rhydychen (pah!) yn arwain yr arbrawf sy'n cyfrifo llwyth o syms i wneud efo cynhesu byd eang - drwy ddefnyddio cof sbar miloedd o gyfrifiaduron ar draws y byd! Dwi heb weld gwahaniaeth yn sut mae'r cyfrifiadur yn rhedeg, a mae o ymlaen gen i drwy'r dydd yn bloeddio Huw Chiswell a'i debyg ag yn gneud syms i bobol Rhydychapych (diolch gethin_aj)! Os nad oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cynhesu byd eang, dwi'n credu bod 'na arbrawf arall yn chwilio am ET!