Tudalen 1 o 1

Arbrawf c'nesu byd eang - rhowch eich cyfrifiadur i'r achos!

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 4:14 pm
gan Tegwared ap Seion
Oes rhywun arall yma'n cyumryd rhan yn yr arbrawf yma? O be fedrai weld, mae Prifysgol Rhydychen (pah!) yn arwain yr arbrawf sy'n cyfrifo llwyth o syms i wneud efo cynhesu byd eang - drwy ddefnyddio cof sbar miloedd o gyfrifiaduron ar draws y byd! Dwi heb weld gwahaniaeth yn sut mae'r cyfrifiadur yn rhedeg, a mae o ymlaen gen i drwy'r dydd yn bloeddio Huw Chiswell a'i debyg ag yn gneud syms i bobol Rhydychapych (diolch gethin_aj)! Os nad oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cynhesu byd eang, dwi'n credu bod 'na arbrawf arall yn chwilio am ET!

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 6:42 pm
gan Macsen
Wnes i osod y rhaglen ar fy nghyfrifiadur tua phum mis yn ôl, ond wedi tua dau fis o weithio'n iawn mi aeth o nôl i 0 am yr un faint o reswm. Mi wnaeth o'r un peth eto ar ôl tua mis arall, felly rydw i wedi ei dynnu oddi ar y cyfrifiadur.

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 9:33 pm
gan Dewi Bins
Ma' 'nghompiwtar i'n rhy shit!