Gardd newydd, a garddwr di-glem...

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gardd newydd, a garddwr di-glem...

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Meh 2006 4:33 pm

'Dwi wedi symud i fy nhy fy hun (a gardd ) ers fis Ionawr, ac yn ddiweddar wedi sylweddoli fod gen i glamp o blanhigyn rhosyn neis yn tyfu'n erbyn y ffens. Dwi hefyd wedi treulio dau ddiwrnod yn codi ffens newydd ar yr ochr arall, ac wedi dechrau dod i arfer torri'r gwair.

Mi wn i fod Yncl Euros wedi planu Lili Wenod Bach wrth droed y dderwen, a dwinnau wedi planu planhigyn pupur mewn potyn (wedi ei gael gan ffrind). Sgin i ddim syniad sut i edrych ar ei ôl o, ond dwi'n cymryd os y rho i ddwr iddo, y daw'n oreit

Dyma gynnwys fy ngardd hyd yn hyn. Sgin i ddim llawer o amser i dreulio yno, ond mi fyswn i'n hoffi gwneud rhywbeth â'r lle (arwahan i'w orchuddio â choncrit!). Mae'n ardd hir a chul sy'n wynebu'r dê, gyda chlamp o dderwen hanner ffordd ar hyd un o'r ochrau hir.

Felly, rwan fod gennych chwi'r gwybodusion syniad o be' sgen i, plis allwch chi awgrymu beth (a sut) alla i blanu'r adeg yma'r flwyddyn...?

Thenciw un antisipêshyn.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwcyn1982 » Llun 12 Meh 2006 4:52 pm

beth am bach o decking a cwpl o sachau o chippings - gardd di-ffwdan. ond edrych braidd fel pob ardd fach arall sy o gwmpas...
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Meh 2006 4:56 pm

Uh uh...
Dim diolch! - Isho sdwff gwyrdd, a bloda' a ballu...
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 12 Meh 2006 5:06 pm

Sud ma'r tir? Gwlyb?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 12 Meh 2006 5:07 pm

Wel o ystyried mai storm neithiwr o'dd y glaw cynta ers wsnosa', nowp, sych braidd (gan nad ydw i wedi dyfrio).
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 12 Meh 2006 5:11 pm

Cacdys?! Hehe. O'n i am awgrymu Helyg, gan mai dyna'r unig beth fedrai awgrymu a rioed 'di blannu wir. Tyfu'n wych adra, a'r lawnt fel llyn :rolio: Da ni'n diw am storm fud - mai di mynd yn drymadd uffernol ag amhosib gweithio. Ta waeth, 'swn i'n garddio 'swn i'n mynd am rwbath ddoith nol eto flwyddyn nesa :!: Nionod?!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dili Minllyn » Maw 13 Meh 2006 9:38 am

huwcyn1982 a ddywedodd:beth am bach o decking a cwpl o sachau o chippings - gardd di-ffwdan. ond edrych braidd fel pob ardd fach arall sy o gwmpas...

Duw a'n gwaredo :!: :ofn:. Trïa'r Clwb Garddio. Mae Gerallt Pennant yn gwybod ei bethau 8) .
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Maw 13 Meh 2006 7:44 pm

Faint o amser hamdden sgen ti? :lol:
Os wyt ti isho lliw ar unwaith, beth am gael potiau mawr a phlanu geraniums, marigolds ayb ynddynt , a'u gosod yma ac acw..
Syniad arall, beth am osod cylch o gwmpas y dderwen , gosod liner arbennig neu rhatach fyth hen garped i lawr oddi amgylch i nadu'r chwyn ac ati ddod i fyny , wedyn wal fechan oddi amgylch a'i lenwi efo bark mulch.
Beth am patio fechan yn yml y ty?
Mae gardd yn cymeryd lot o amser , a da ni'n dal i weithio ar un ni ers deng mlynedd! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Huw Psych » Mer 14 Meh 2006 11:00 am

Gardd wyllt...jysd gad o i dyfu ar ei ben ei hun ac mynd a torri'r gwair ambell dro! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron