'Dwi wedi symud i fy nhy fy hun (a gardd ) ers fis Ionawr, ac yn ddiweddar wedi sylweddoli fod gen i glamp o blanhigyn rhosyn neis yn tyfu'n erbyn y ffens. Dwi hefyd wedi treulio dau ddiwrnod yn codi ffens newydd ar yr ochr arall, ac wedi dechrau dod i arfer torri'r gwair.
Mi wn i fod Yncl Euros wedi planu Lili Wenod Bach wrth droed y dderwen, a dwinnau wedi planu planhigyn pupur mewn potyn (wedi ei gael gan ffrind). Sgin i ddim syniad sut i edrych ar ei ôl o, ond dwi'n cymryd os y rho i ddwr iddo, y daw'n oreit
Dyma gynnwys fy ngardd hyd yn hyn. Sgin i ddim llawer o amser i dreulio yno, ond mi fyswn i'n hoffi gwneud rhywbeth â'r lle (arwahan i'w orchuddio â choncrit!). Mae'n ardd hir a chul sy'n wynebu'r dê, gyda chlamp o dderwen hanner ffordd ar hyd un o'r ochrau hir.
Felly, rwan fod gennych chwi'r gwybodusion syniad o be' sgen i, plis allwch chi awgrymu beth (a sut) alla i blanu'r adeg yma'r flwyddyn...?
Thenciw un antisipêshyn.