Pa mor bell mae'ch bwyd yn teithio?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa mor bell mae'ch bwyd yn teithio?

Postiogan Dili Minllyn » Iau 27 Gor 2006 2:16 pm

Des i ar draws hon yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddoe. Deiseb ddigon werth chweil.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Garlleg » Sad 05 Awst 2006 7:42 pm

Dw i'n aelod Garden Organic (HDRA). Mi wnes i arolwg llysiau organeg (2004?) - roedd 'na foron organeg o'r Aifft pan oedd 'na foron o'r Alban ar y silff nesa'.

Ro'n i'n siarad am yr amgylchedd llynedd mewn cystadleuath Eisteddfod (Dweud eich dweud) - Meddyliwch yn fyd-eang, gweithredwch yn lleol roedd fy slogan.
http://www.cyd.org.uk
Noson Sgorsio - Galeri C'fon 8.30 5ed o Fedi
Rhithffurf defnyddiwr
Garlleg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:26 am
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Sad 05 Awst 2006 8:09 pm

Garlleg a ddywedodd:Dw i'n aelod Garden Organic (HDRA).


Mae Cymdeithas Ymchwil Henry Doubleday (HDRA) yn arbennig o dda. Mi fydda i'n defnyddio eu catalog garddio yn gyson.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Mer 22 Tach 2006 10:44 am

Yn enghraifft o ffolineb cludo bwyd yn ddiangen, mae rhybudd wedi bod yn ddiweddar y bydd Prydain yn gorfod mewnforio llaeth o Ffrainc yn ystod y pum mlynedd nesaf. Rydyn eisoes yn mewnforio 1.4 biliwn o wyau'r flwyddyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 22 Tach 2006 12:14 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Yn enghraifft o ffolineb cludo bwyd yn ddiangen, mae rhybudd wedi bod yn ddiweddar y bydd Prydain yn gorfod mewnforio llaeth o Ffrainc yn ystod y pum mlynedd nesaf. Rydyn eisoes yn mewnforio 1.4 biliwn o wyau'r flwyddyn.


Ac eto maen nhw'n cau Hufenfa Llangadog? Mae hynna'n wirion!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 12 Chw 2007 1:31 pm

I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dili Minllyn » Maw 13 Chw 2007 11:25 am

The Times a ddywedodd:The wisdom of “food miles” has been challenged in a report indicating that carbon emissions for importing Kenyan roses, including air freight, were almost six times lower than for roses imported from the Netherlands.

Diddorol. Mater cymhleth, yn sicr. Mae cynhyrchwyr cig oen Seland Newydd wedi codi pwynt tebyg, gan honni bod eu dulliau ffermio gwyrdd nhw yn gwneud yn iawn am effaith cludo'r cig rownd y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dili Minllyn » Iau 19 Ebr 2007 11:37 am

Yn ystod fy ngwyliau diweddar yn sir Amwythig, des i ar draws cynllun bwyd lleol diddorol iawn. Mae nifer o siopau, bwytai a gwestai yn Llwydlo wedi ymroi i roi blaenoriaeth amlwg i fwyd a diod wedi'u cynhyrchu o fewn 30 milltir i'r dref, gan gynnwys y siop gwrw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Maw 01 Mai 2007 3:40 pm

'Roedd stori ar y pwnc yma ar y newyddion neithiwr Dili. Cyfweliad efo cwpwl o Vancouver sydd yn cyfyngu eu hunain i fwyta bwyd sydd wedi cael ei dyfu o fewn radiws o 100 milltir i'w cartref. Mwy o hanes y ddau yma , ac amdan eu llyfr newydd The 100 Mile Diet.
Mi fyddai'n trio ngorau i brynnu nwyddau lleol , ond mae hyn yn lot hawsach yn yr haf na'r gaeaf. Mae Farmer's Markets yn boblogaidd iawn yma , o fis Ebrill tan yr hydref, lle welir amrywiaeth eang o fwydydd lleol. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dili Minllyn » Mer 02 Mai 2007 9:36 am

Mali a ddywedodd:'Roedd stori ar y pwnc yma ar y newyddion neithiwr Dili. Cyfweliad efo cwpwl o Vancouver sydd yn cyfyngu eu hunain i fwyta bwyd sydd wedi cael ei dyfu o fewn radiws o 100 milltir i'w cartref. Mwy o hanes y ddau yma , ac amdan eu llyfr newydd The 100 Mile Diet.

Syniad diddorol. Dwi ddim yn meddwl bod neb yn Llwydlo'n ceisio byw ar fwyd o'r cylch yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron