Ynni Adnewyddadwy

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ynni Adnewyddadwy

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 22 Awst 2003 8:50 am

Gwen a ddywedodd:Yn Ein Gwlad tro'ma:

Cynog Dafis: The man who felt that the only way Plaid Cymru could win Ceredigion was to pander the colons, especially the Greens. He was wrong. Now he wants to cover Wales with ugly, inefficient wind turbines (paid for by us all through hidden subsidies that disguise the absurdly high cost of wind-generated electricity).


(Dw i wedi mewnforio hwn o'r fforwm Gwleidyddiaeth er mwyn osgoi tarfu ar brif rediad y drafodaeth am lywyddiaeth Plaid Cymru.)

Mae'na erthygl reit ddiddorol yn The Guardian heddiw sy'n nodi fel mae'r diwydiant ynni niwclear (gan smalio pryderu am yr amgylchedd) wedi bod yn rhoi cefnogaeth lwyddiannus i ymgyrchoedd lleol yn erbyn ynni gwynt er mwyn tanseilio datblygiad ynni adnewyddadwy ym Mhrydain.

Sinister iawn gen innau.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Clebin » Llun 01 Medi 2003 10:47 pm

Erthygl diddorol iawn, yn bennaf i fi yn Porthcawl.

Weles i ddim unrhyw wrthdystiad penwythnos diwetha, ond efallai oeddwn i yn y lle chwith.

Mae 'na petha gwaethaf na windfarms i spoilio eich golwg. Y steelworks yn Port Talbot er enghraifft, sydd yn gweledig yn clir o Rest Bay a Tywodfryn y Cynffig..... Dw i ddim yn poeni am gwpl o windmills yn y pellter.

Chirs
Clebin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:31 pm

Postiogan Dic Penderyn » Gwe 19 Medi 2003 11:44 pm

:D
Mae gan Cervantez ddisgrifiad am arch-wrth-felinydd-gwynt Clydach.
Rosinante ydi i geffyl o!
:P mae pawb arall yn ei alw'n Ioan M Richard(yntau Horrid Maniac?)
JR
Dic Penderyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Gwe 19 Medi 2003 1:42 pm
Lleoliad: Clydach

Postiogan Gwddig » Sul 21 Medi 2003 9:21 pm

Nid Ioan F.Richards yw´r unig Don Quichote yn erbyn melinoedd gwynt.. Fe geir un arall o´r enw Erwin Teufel (Diawl) ac yn wir fe geith fynd i´r diawl ar ei Rosinante...
Gwddig
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Llun 15 Medi 2003 10:08 am
Lleoliad: Lörrach

Postiogan nicdafis » Llun 22 Medi 2003 9:52 am

Lyn Jenkins, Gwbert yw un arall. Mae e'n sgwennu llythyrau di-derfyn at y Teifi Seid cwyno am felinau gwynt.

Does dim problem 'da fi gyda melinau, os ydyn nhw dan reolaeth y gymunedau sy'n gorfod byw gyda nhw. Yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir yn y rhan fwya (bob un?) o achosion yng Nghymru. Sdim byd o'i le gyda <a href="http://www.psr.keele.ac.uk/area/uk/man/pcymru97.htm">pholisi Plaid Cymru</a> (erthygl Saesneg, debyg bod 'na fersiwn Gymraeg o hyn rhywle?):
Plaid Cymru's commitment to wind energy, sometimes in the teeth of fierce opposition, has been fully vindicated by the IPCC's findings. Wales is now developing its wind resources at about the level we advocated and is on line to produce about 10% of our energy needs from this source. Our task is now to ensure local benefits from wind generation in the form of a state-of-the-art export industry. We also need a national strategy for wind energy which clearly identifies those environmentally sensitive locations for which current wind farms would not be suitable.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gwen » Llun 22 Medi 2003 11:14 am

Mae colofn nesa Lefi Gruffudd yn y Western Mail (dydd Sadwrn nesa) am fynd lawr yn dda yn fama felly! Dwi ddim o reidrwydd yn cytuno hefo'r safbwynt - mond deud ydw i.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan shunji "Mei" fu » Llun 22 Medi 2003 6:29 pm

'Sa rhywyn di clywed am project ail wynt uwchben Llanrwst rhywle? ffarmwrs go iawn 'di dechra rhywfath o gwmni cydweithredol i godi melinau. Syniad da yn fy marn i a mae'r stats. yn reit ddiddorol
Rhithffurf defnyddiwr
shunji "Mei" fu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 4:49 pm
Lleoliad: Dre(cont)

Postiogan nicdafis » Maw 23 Medi 2003 8:28 am

Swnio'n dda. Oes manylion amdano ar y we rhywle?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cardi Bach » Maw 23 Medi 2003 9:14 am

nicdafis a ddywedodd:Swnio'n dda. Oes manylion amdano ar y we rhywle?


Os, cer i http://www.icwales.co.uk (e.e. http://icwales.icnetwork.co.uk/0100news/1000farming/page.cfm?objectid=13394116&method=full&siteid=50082 )a chwilia am Moel Maelogan (withe Maelogen). Ma Plaid Cymru wedi bod yn edrych ar eu datblygiad. (y boi nath ennill y Loteri rhai misoedd yn ol sydd yn ngofal e ...Rheinallt rhwbeth.)

Mae'n gynllun difyr iawn, ac yn addo dod a lot o arian i'r economi lleol yno. Tebyg iawn i gynllun Camddwr ger Soar y Mynnydd, ond dipyn yn llai.

[HK Little
John Etherington

dyma ddau arall sy'n cadw llythyrru'r wasg ar y mater.

Fi'n cofio i Lyn Jenkins honni fod y melynnau gwynt am ladd Cudull Coch canolbarth Cymru a fod cyrff Cudulliaid am gael eu darganfod ambythdi'r lle heb bennau, a dweud fo yr RSPB yn gwrthwynebu. Buodd raid i'r RSPB ddanfon llu o lythyrau i'r wasg yn ei gywiro a dweud nad oeddynt yn gwrthwynebu. Wedyn wedodd e y byddai 'icicles' (beth yw lluosog pibonwy?) yn hedfan boban ac yn lladd pobl wrth eu bont yn hedfan bant! Hefyd dweud eu fod yn cymryd twll maent pwll nofio olympaidd gyda choncrit i gynnal pob un...pob honiad dwl weid eu profi'n anghywir! :rolio: ]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 05 Tach 2003 2:23 pm

[url=http://www.unit-e.co.uk/default.asp]Wedi dod o hyd i hwn os oes gan unrhyw un ddiddordeb.

Fi'n sicr yn mynd i roi ystyriaeth ddwys i'r peth. :winc: [/url]
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai