Cwmniau trydan "gwyrdd"

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwmniau trydan "gwyrdd"

Postiogan nicdafis » Llun 16 Hyd 2006 1:13 pm

Dyn ni gyda <a href="http://www.npower.com/at_home/juice-clean_and_green.html">Juice</a> ers sawl blwyddyn, ond ddim yn hapus iawn gyda nhw (sawl rheswm).

Oes profiad gyda chi gydag un o'r cwmniau eraill sy'n cynnig "trydan glân"?

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Dili Minllyn » Maw 17 Hyd 2006 8:46 am

Aethon ni am hwn trwy'r RSPB, ac maen nhw wedi bod yn eitha da.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan blod fresychen » Iau 19 Hyd 2006 2:10 pm

Wedi bod gyda http://www.good-energy.co.uk/ ers dwy flynedd(unit-e gynt) ac yn hapus iawn. Dw i'n meddwl taw nhw yw'r unig gyflenwr 100% adnewyddol. Mae 'na ostyngiadau pris os wyt ti'n talu o flaen llaw hefyd.

Nhw ag http://www.ecotricity.co.uk/ yw'r ddau gwmni mwyaf gwyrdd ac annibynnol yn y farchnad dw i'n meddwl.[/url]
blod fresychen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Mer 21 Ion 2004 11:01 am
Lleoliad: cymru - lloegr - llanrwst

Postiogan Cardi Bach » Maw 24 Hyd 2006 10:03 am

Os am ynnu gwyrdd bydden i'n awgrymu Ecotricity.

Mae'n nhw'n gwarantu fod eu trdyan yn 100% o ynnu adnewyddadwy ac yn gwmni annibynol. Ma nhw hefyd yn gwaranti na fydd eu trydan nhw yn costio ddim mwy na thrydan y cyflenwr rhanbarthol. Yn fy achos i Manweb yw'r cyflenwyr rhanbarthol. Mae'n siwr mai SWALEC yw e i ti Nic yn Llangrannog.

Gelli eu ffonio ar 08000 326100.

Yr unig drafferth yw nad yn nhw'n darparu gwybodaeth ac ati trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wy wedi gofyn iddyn nhw am hyn ac ma nhw'n gweud eu bod nhw yn edrych i fewn i'r peth.

Wy am fynd drosodd at ecotricity fy hun cyn diwedd yr wthnos.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Taflegryn » Sul 19 Tach 2006 10:45 pm

On i gyda Good energy am gyfnod ond oeddan nhw wastad yn cocio fyny lle oedd y bills yn cael eu danfo, gneud estimations enfawr. Nes i adael nhw yn y diwadd ac ymuno a sgim gwyrdd Scottish Power gan fod ganddyn nhw dipyn o hydro elecs yn yr Alban
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan nicdafis » Llun 20 Tach 2006 12:39 am

Diolch am yr atebion - wnawn ni edrych mewn i'r peth.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gai Toms » Maw 16 Hyd 2007 3:54 pm

Da ni efo Good-energy ers 2006 a heb gael problem hyd yn hyn.
Dwi hyd yn oed wedi cynnig recordio / mixio album gan ddefnyddio eu egni, mae nhw wedi ymateb yn bosotif iawn! Doswch i http://www.ukgreenpower.co.uk i gymharu prisiau.

Yn ddelfrydol, byswn i'n licio symyd fy stiwdio i rhywle (neuadd, canolfan, sefydliad) sydd efo egni adnewyddadwy preifat ar gyfer creu recordiad / album werdd, a'i gymysu adra gyda good-energy. Rhywun efo syniad?

Dwi wedi trio CAT ym Machynlleth - diddordeb ond dim lle. Wedi trio Pwerdy Tanygrisiau - egni i'r grid mae nhw'n neud a ddim yn defnyddio'r egni mae nhw'n greu ar gyfer yr adeilad.

Gwerthfawrogaf unrhyw ymateb.
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai